1Oblegid yr annuwiol a ddywedant ynddynt eu hun, gan feddwl, ond nid yn uniawn, Ber a blin yw ein hoes ni: yn niwedd dyn nid oes meddyginiaeth, ac ni adnabuwyd neb a ddychwelodd o uffern.
2Canys ar ddamwain y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni mwy na phe na buasem: oblegid mwg yw’r ffun yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw’r ymadrodd yn dyfod o symudiad y galon;
3Pan ddiffodder honno, yr â’r corff yn lludw, a’n hanadl a wasgerir fel awyr denau;
4A’n henw ni a anghofir mewn amser, fel na chofio neb ein gweithredoedd; a’n heinioes ni a â fel ôl niwl, ac a wasgerir fel cwmwl, yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a’r hwn y byddo ei wres ef drwm wrtho.
5Canys ein hamser ni sydd fel mynediad cysgod; ac nid oes dychweliad ar ein diwedd: canys efe a seliwyd, ac nid oes neb yn dychwelyd.
6Deuwch gan hynny, mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn brysur yr hyn a feddwn, megis mewn ieuenctid.
7Ymlanwn â gwin gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau’r amser fyned heibio i ni.
8Gwisgwn goron o flodau rhos, cyn eu gwywo.
9Na fydded neb ohonom ni heb ei ran o ddifyrrwch; gadawn ym mhob man arwyddion o’n llawenydd: oblegid hyn yw ein rhan ni, a dyma ein dogn ni.
10Gorthrymwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y weddw, ac na pharchwn hirhoedlog benllwydni yr hynafgwr.
11Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn: canys gwendid a geryddir fel peth di-fudd.
12Cynllwynwn gan hynny i’r cyfiawn, am ei fod ef yn anfuddiol i ni: y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn edliw y pechodau sydd yn erbyn y gyfraith, ac yn cyhoeddi er gogan i ni y pechodau sydd yn erbyn ein haddysg ni.
13Y mae efe yn ymhonni fod ganddo wybodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei hun yn blentyn i’r Arglwydd.
14Efe a wnaed i argyhoeddi ein meddyliau ni.
15Trwm gennym ei weled ef; am fod ei fuchedd ef yn annhebyg i’r eiddo eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.
16Y mae efe yn ein cyfrif ni yn blant o ordderch, ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni, megis rhag peth aflan; y mae efe yn cyfrif diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni fod Duw yn dad iddo.
17Edrychwn ai gwir ei eiriau ef, a mynnwn wybod yn sicr beth a fydd ei ddiwedd ef.
18Oblegid os mab Duw yw’r cyfiawn, efe a’i derbyn ef, ac a’i gwared ef o ddwylo ei wrthwynebwyr.
19Holwn ef yn amharchus ac yn gystuddiol, fel y caffom wybod ei addfwynder ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.
20Barnwn ef i farwolaeth waradwyddus: oblegid fe a synnir arno, medd efe.
21Hyn a feddyliasant hwy, a hwy a gamgymerasant: oblegid eu drygioni a’u dallodd hwynt.
22Ac ni wybuant hwy ddirgeledigaethau Duw, ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder, ac nid ystyriasant wobr yr eneidiau difeius.
23Oblegid Duw a greodd ddyn i fod yn anllygredig, ac a’i gwnaeth ef yn ddelw ei lun ei hun.
24A thrwy genfigen y cythraul y daeth marwolaeth i’r byd: a’r rhai sydd ar ei du ef a’i profant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.