1Hon a gadwodd y cyntaf a luniwyd, tad y byd, yr hwn a grewyd yn unig, ac a’i gwaredodd ef o’i fai,
2Ac a roddes iddo ef nerth i lywodraethu pob peth.
3A phan ymadawodd yr anghyfiawn â hi yn ei ddicter, efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd:
4Er mwyn yr hwn y boddwyd y ddaear: eithr doethineb drachefn a’i cadwodd hi, gan lywio’r cyfiawn ag ychydig bren.
5Hi hefyd, yng nghytundeb y cenhedloedd cymysgadwy mewn drygioni, a adnabu’r cyfiawn, ac a’i cadwodd ef yn ddifai i Dduw, ie, yn ei fawr gariad i’w fab, hi a’i cadwodd ef yn gryf.
6Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr annuwiol colledig, pan ffodd efe rhag y tân a ddisgynnodd ar y pum dinas;
7Am yr hwn ddrygioni y mae y diffeithdir myglyd, a’r planwydd yn ffrwytho heb aeddfedu byth, yn dystiolaeth: felly y mae y golofn halen yn sefyll yn goffadwriaeth am yr enaid anghredadun.
8Oblegid y rhai a ddiystyrasant ddoethineb, ni chawsant yn unig y niwed hyn, sef bod heb wybod pethau da, eithr hwy a adawsant goffadwriaeth i’r byd o’u ffolineb; ac ni allent lechu yn y pethau a wnaethant ar fai.
9Eithr y rhai a’i parchent hi, a waredodd doethineb o boenau.
10Mewn llwybrau uniawn yr arweiniodd hi y cyfiawn, yr hwn oedd yn ffoi rhag digofaint ei frawd; hi a ddangosodd iddo ef deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef wybodaeth am bethau sanctaidd; hi a’i cyfoethogodd ef yn ei lafur, ac a gynyddodd ffrwyth ei boen ef.
11Wrth gybydd-dod y rhai oedd drech nag ef, yr oedd hi gerllaw, ac a’i cyfoethogodd ef.
12Hi a’i cadwodd ef rhag ei elynion, ac a’i diofalodd ef oddi wrth ei gynllwynwyr; ac mewn ymdrech cryf hi a roddes y maes iddo ef, fel y gallai efe wybod fod duwioldeb yn gryfach na dim.
13Ni adawodd hi y cyfiawn, yr hwn a werthwyd, eithr hi a’i hachubodd ef rhag pechod, ac a aeth i waered gydag ef i’r carchar.
14Ie, ni adawodd hi ef yn ei rwymau, hyd oni ddygodd hi iddo ef deyrnwialen y frenhiniaeth, a llywodraeth ar ei orthrymwyr: hi a ddangosodd fod y rhai oedd yn beio arno ef, yn gelwyddog, ac a roddes iddo ef ogoniant tragwyddol.
15Hon a waredodd y bobl sanctaidd a’r had difai oddi wrth y genedl a’u gorthrymai hwynt.
16Hi a aeth i mewn i enaid gwas yr Arglwydd, ac a safodd yn erbyn brenhinoedd ofnadwy, gan wneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau.
17Hi a roddes i’r rhai cyfiawn wobr sancteiddrwydd eu llafur; hi a’u harweiniodd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt y dydd, ac yn fflam o sêr y nos.
18Hi a’u dug hwy trwy’r môr coch, ac a’u harweiniodd hwy trwy ddwfr mawr:
19A hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac a’u dug hwynt i fyny o waelod y dyfnder.
20Am hynny y rhai cyfiawn a ysbeiliasant y rhai annuwiol, ac a ddatganasant dy enw sanctaidd di, O Arglwydd, ac a glodforasant o unfryd dy law orchfygus di.
21Oblegid doethineb a agorodd enau y rhai mudion, ac a osododd dafodau plant bychain yn ymadroddus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.