Josua 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.

2A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto.

3A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi?

4Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn.

5A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd.

6A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr ARGLWYDD ein DUW.

7Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt.

8A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo.

9A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.

10A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.

12A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen.

13Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua’r deau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth-adar, i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth-horon isaf.

14A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tua’r deau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.

15A thu y deau sydd o gwr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.

16Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.

17Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:

18Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd, ac yn disgyn i Araba.

19Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth-hogla tua’r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau.

20Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

21A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hogla, a glyn Cesis,

22A Beth-araba, a Semaraim, a Bethel,

23Ac Afim, a Phara, ac Offra,

24A Cheffar-haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

25Gibeon, a Rama, a Beeroth,

26A Mispe, a Cheffira, a Mosa,

27A Recem, ac Irpeel, a Tharala,

28A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help