Judith 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 10

1A phan ddarfu iddi weiddi ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,

2Hi a gyfododd o’r fan y syrthiasai, ac a alwodd ei llawforwyn, ac a aeth i waered i’r tŷ, yn yr hwn yr oedd hi yn aros dros ddyddiau y Sabothau, a thros ei gwyliau;

3A hi a fwriodd ymaith y sachliain â’r hwn yr ydoedd hi wedi ymwisgo, ac a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod, ac a olchodd ei holl gorff drosto â dwfr, ac a ymeneiniodd ag ennaint gwerthfawr, ac a osododd wallt ei phen mewn trefn, ac roddodd feithr arno, ac a wisgodd ei dillad parchedig y rhai y byddai hi arferol o’u gwisgo ym myw ei gŵr Manasses;

4A hi a gymerodd sandalau am ei thraed, ac a wisgodd freichledau, a chadwyni, a modrwyau, a chlustlysau, a’i holl deganau, ac a ymbinciodd yn wych iawn, i hudo llygaid pa wŷr bynnag a’i gwelent hi.

5Yna hi a roddodd i’w llawforwyn gostrelaid a win, ac ystenaid o olew, ac a lanwodd gwd o beilliaid, ac o ffigys, ac o fara peilliaid: a hi a ddyblygodd ei holl lestri hyn ynghyd, ac a’u gosododd arni.

6A hwy a aethant ynghyd i borth dinas Bethulia, ac a gawsant Oseias, a henuriaid y ddinas, Chabris a Charmis, yn sefyll wrtho.

7A phan welsant hwy hi, a bod ei hwynepryd hi wedi ei newid, a’i dillad wedi eu newid, hwynt-hwy a ryfeddasant yn ddirfawr oherwydd ei glendid hi, ac a ddywedasant wrthi,

8Duw, Duw ein tadau, a roddo i ti ras, ac a gwblhao dy amcanion, i ogoniant meibion Israel a dyrchafiad Jerwsalem. Yna hwy a addolasant Dduw.

9A hi a ddywedodd wrthynt, Gorchmynnwch agoryd i mi borth y ddinas, fel yr elwyf allan i gyflawni’r geiriau a lefarasoch chwi wrthyf. Felly hwy a orchmynasant i’r llanciau agori iddi, megis ag y dywedasai hi: a hwythau a wnaethant felly.

10Yna yr aeth Judith allan, hi a’i llawforwyn gyda hi: a gwŷr y ddinas a edrychasant ar ei hôl, nes iddi ddisgyn o’r mynydd, a myned trwy’r dyffryn; ac ni allent wedi hynny ei gweled hi.

11A hwy a aethant ar hyd y dyffryn yn union: a gwyliadwriaeth gyntaf yr Asyriaid a gyfarfu â hi,

12Ac a’i daliasant hi, ac a ofynasant iddi, O ba bobl yr wyt ti? ac o ba le yr wyt ti yn dyfod? ac i ba le yr wyt ti yn myned? A hi a ddywedodd, Merch ydwyf o’r Hebreaid, a ffoi yr ydwyf oddi wrthynt hwy: canys hwy a roddir yn ysglyfaeth i chwi.

13Ac yr ydwyf fi yn dyfod gerbron Oloffernes pen-tywysog eich llu chwi, fel y mynegwyf eiriau gwir, ac y dangoswyf ger ei fron ef y ffordd yr â efe, ac y goresgyn yr holl fynydd-dir; ac ni dderfydd am gorff nac einioes un o’i wŷr ef.

14Pan glybu y gwŷr ei geiriau hi, hwy a ddaliasant sylw ar ei hwynepryd hi, ac yr oedd hi yn landeg odiaeth ger eu bron hwynt; a hwy a ddywedasant wrthi hi,

15Tydi a gedwaist dy einioes, gan i ti ddyfod i waered ar frys gerbron ein harglwydd ni: yn awr gan hynny tyred at ei babell ef, a rhyw rai ohonom a’th arweiniant di, nes iddynt dy roddi yn ei law ef.

16A phan sefych di ger ei fron ef, nac ofna yn dy galon, eithr mynega yn ôl dy ymadroddion, ac efe a wna yn dda i ti.

17Yna hwy a etholasant gannwr ohonynt, ac a baratoesant gerbyd iddi hi, ac i’w llawforwyn, a hwy a’i dygasant hi i babell Oloffernes.

18Yna yr oedd rhedegfain trwy’r holl wersyll: canys ei dyfodiad hi a aeth yn gyhoedd yn y pebyll: a hwy a ddaethant, ac a safasant o’i hamgylch hi, canys yr oedd hi yn sefyll o’r tu allan i babell Oloffernes, nes iddynt hwy fynegi iddo o’i herwydd hi.

19A hwy a ryfeddasant oherwydd ei glendid hi, ac a ryfeddasant o’i herwydd wrth feibion Israel; a dywedodd pob un wrth ei gilydd, Pwy a ddirmygai’r bobl hyn, sy â’r fath wragedd yn eu mysg? diau nid yw dda adael un gŵr ohonynt; canys pe gadewid hwynt, hwy a allent dwyllo’r holl ddaear.

20A’r rhai oedd yn cysgu yn agos at Oloffernes a aethant allan, a’i holl weision ef, ac a’i dygasant hi i’r babell.

21Ac Oloffernes oedd yn gorffwys ar ei wely mewn canopi, yr hwn ydoedd wedi ei weu o borffor, ac aur, a smaragdus, a meini gwerthfawr.

22A hwy a fynegasant iddo ef o’i phlegid hi; ac efe a aeth allan i’r cyntedd o flaen ei babell, a llusernau arian yn myned o’i flaen ef.

23A phan ddaeth Judith ger ei fron ef a’i weision, hwy oll a ryfeddasant oherwydd glendid ei hwynepryd hi: hithau gan syrthio ar ei hwyneb a ymgrymodd iddo: a’i weision ef a’i codasant hi i fyny.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help