Jona 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn,

2Ac a ddywedodd, O’m hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.

3Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof.

4A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd.

5Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen.

6Disgynnais i odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos, O ARGLWYDD fy NUW.

7Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd.

8Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.

9A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD.

10A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help