Eseciel 43 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain.

2Ac wele ogoniant DUW Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef.

3Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.

4A gogoniant yr ARGLWYDD a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain.

5Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD y tŷ.

6Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

7Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt-hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd.

8Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd-dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid.

9Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.

10Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad.

11Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.

12Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.

13A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a’r lled yn gufydd, a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor.

14Ac o’r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led.

15Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn.

16A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys.

17A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain.

18Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni.

19Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd DDUW, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech-aberth.

20A chymer o’i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.

21Cymeri hefyd fustach y pech-aberth, ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cysegr.

22Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith-gwbl yn bech-aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â’r bustach.

23Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith-gwbl, a hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd.

24Ac o flaen yr ARGLWYDD yr offrymi hwynt; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.

25Saith niwrnod y darperi fwch yn bech-aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o’r praidd, o rai perffaith-gwbl.

26Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant.

27A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help