1Fe a geir hefyd yn y sgrifenadau, erchi o Jeremeias y proffwyd i’r rhai a arweiniwyd ymaith gymryd y tân, megis y mynegwyd;
2Ac fel y gorchmynasai’r proffwyd i’r rhai a arweiniwyd ymaith, gan roddi iddynt gyfraith, na ollyngent dros gof orchmynion yr Arglwydd, ac na chyfeiliornent yn eu meddyliau, pan welent ddelwau o aur ac arian, a gwisgoedd.
3Cyfryw bethau eraill a lefarodd wrthynt, gan eu cynghori na adawent i’r gyfraith fyned allan o’u calonnau.
4Yr oedd hefyd yn yr un sgrifen, fel y darfu i’r proffwyd, trwy ateb Duw wrtho, orchymyn dwyn y babell a’r arch gydag ef, hyd oni ddaeth i’r mynydd yr esgynnodd Moses iddo, lle y gwelodd efe etifeddiaeth Duw.
5Ac wedi dyfod Jeremeias yno, efe a gafodd ogof, yn yr hon y gosodes efe y babell, a’r arch, ac allor y poethoffrwm, ac a gaeodd y drws.
6A rhai a ddaethant i farcio’r ffordd, o’r rhai a’i dilynent ef; ond ni fedrent ei chael.
7Pan wybu Jeremeias hynny, efe a’u ceryddodd hwy, gan ddywedyd, Ni chaiff neb wybod y lle, hyd oni chasglo Duw ei bobl drachefn, a bod trugaredd:
8Yna y dengys yr Arglwydd iddynt y pethau hyn; a gogoniant yr Arglwydd a ymddengys, a’r cwmwl hefyd, megis ag y datguddiwyd i Moses, ac fel y deisyfodd Salomon, bod sancteiddio’r lle yn anrhydeddus.
9Canys eglur yw, ddarfod iddo megis un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth cysegriad a sancteiddiad y deml.
10Ac megis, pan weddïodd Moses ar yr Arglwydd, y daeth tân i lawr o’r nefoedd, ac yr ysodd yr aberth; felly Salomon a weddïodd, a thân a ddaeth i lawr o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm.
11A Moses a ddywedodd, Am na ddylid bwyta’r offrwm dros bechod, am hynny yr yswyd ef.
12Ac felly Salomon a gadwodd yr wyth niwrnod hynny.
13Y pethau hyn hefyd a fynegir yn sgrifenadau ac yng nghoflythyrau Nehemeias, fel y gwnaeth efe lyfrdy, ac y casglodd actau y brenhinoedd a’r proffwydi, actau Dafydd ac epistolau y brenhinoedd am y rhoddion sanctaidd.
14Yn yr un ffunud Jwdas a gasglodd ynghyd yr holl bethau a gollesid o achos y rhyfel a ddigwyddodd arnom; ac y mae hynny gennym ni.
15Am hynny o bydd rhaid i chwi wrthynt, danfonwch rai a’u dyco i chwi.
16Canys oherwydd ein bod ni a’n bryd ar gadw y puredigaeth, ni a sgrifenasom atoch: am hynny, da y gwnewch chwithau os cedwch yr un dyddiau.
17Duw, yr hwn a waredodd ei holl bobl, ac a roddes etifeddiaeth i bawb, a theyrnas, ac offeiriadaeth, a sancteiddrwydd,
18Megis yr addawodd efe yn y gyfraith, yr ydym yn gobeithio y trugarha wrthym ar fyrder, ac y casgl ni ynghyd o bob gwlad oddi tan y nefoedd, i’w le sanctaidd: canys efe a’n gwaredodd ni oddi wrth fawr beryglon, ac a lanhaodd y lle.
19Am Jwdas Macabeus a’i frodyr, am buredigaeth y deml fawr, a chysegriad yr allor,
20A’r rhyfeloedd yn erbyn Antiochus Epiffanes a’i fab Eupator,
21A’r eglur arwyddion a ddaethant o’r nefoedd i’r rhai a ymddygasant yn wrol i’w hanrhydedd yng nghweryl crefydd yr Iddewon: canys er nad oeddynt ond ychydig, eto hwy a orchfygasant yr holl wlad, ac a yrasant i ffoi dyrfâu y barbariaid,
22Ac a adeiladasant drachefn y deml, am yr hon yr oedd mawr sôn trwy’r holl fyd, ac a waredasant y ddinas, ac a sicrhasant y cyfreithiau yr oeddid ar eu dirymu, oherwydd bod yr Arglwydd yn drugarog ac yn rasol iawn wrthynt;
23Y pethau hefyd a fynegodd Jason Cyreneus mewn pum llyfr, ni a brofwn eu talfyrru mewn un llyfr.
24Canys wrth ystyried anfeidrol rifedi y llyfrau, a’r dryswch y maent hwy yn ei gael sydd yn chwennych myned trwy draethawd yr histori, oherwydd amled y materion;
25Nyni a gymerasom ofal ar gael o’r rhai a ewyllysient ddarllen, ddiddanwch, a bod esmwythdra i’r rhai a chwenychent gofio, ac i bawb a’i darllenent gael budd.
26Am hynny i ni, y rhai a gymerasom arnom y drafael flin hon i dalfyrru, nid esmwythdra oedd, ond gwaith a wnaeth i ni chwysu a gwylio.
27Fel nad ydyw esmwyth i’r hwn a wnelo wledd, ac a geisio fudd rhai eraill; felly ninnau, er mwyn gwneuthur cymwynas i lawer, a gymerwn y blinder hyn yn ewyllysgar;
28Gan adael bod yn fanwl am bob peth i’r awdur, nyni a geisiwn grynhoi y cwbl ar fyr eiriau:
29Canys fel y mae yn rhaid i’r neb a wnelo dŷ newydd ofalu am yr holl adeiladaeth: ond y neb a gymero arno ei osod allan, a’i beintio, nid rhaid iddo geisio dim ond a fyddo angenrheidiol i’w harddu: felly yr ydwyf fi yn meddwl o’n rhan ninnau,
30Mai perthynasol yw i sgrifennwr cyntaf yr histori fyned ynddi yn ddwfn i sôn am bob peth, gan fod yn ddiesgeulus ym mhob rhan;
31Ond y mae’n rhydd i’r neb a’i talfyrro, arfer ychydig eiriau, ac ymadael â phob manylwch ynddi.
32Yma am hynny y dechreuwn ein traethawd: am y rhagymadrodd, digon yw a ddywedasom; canys ffolineb yw arfer hir ymadrodd o flaen yr histori, a bod yn fyr yn yr histori.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.