Deuteronomium 30 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr ARGLWYDD dy DDUW di atynt;

2A dychwelyd ohonot at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid:

3Yna y dychwel yr ARGLWYDD dy DDUW dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr ARGLWYDD dy DDUW di.

4Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oddi yno y’th gymerai.

5A’r ARGLWYDD dy DDUW a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau.

6A’r ARGLWYDD dy DDUW a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.

7A’r ARGLWYDD dy DDUW a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di.

8Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr ARGLWYDD, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.

9A’r ARGLWYDD dy DDUW a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr ARGLWYDD i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10Os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

11Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

12Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

13Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

14Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.

15Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

16Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

17Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt;

18Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi.

19Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;

20I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help