1Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr ARGLWYDD ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin.
2A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd:
3A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau.
4Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.
5Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu DUW, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
