1Ar yr ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.
2 ARGLWYDD, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
4Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.
5Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
6Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
7Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
