1Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.
2Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.
3Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
4Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.
5Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
7Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau.
8Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O ARGLWYDD.
9Canys ti, ARGLWYDD, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
10Y rhai a gerwch yr ARGLWYDD, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol.
11Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
12Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr ARGLWYDD; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
