1Pan offrymo dyn fwyd-offrwm i’r ARGLWYDD, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.
2A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
3A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.
4Hefyd pan offrymech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5Ond os bwyd-offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.
6Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd-offrwm yw.
7Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.
8A dwg i’r ARGLWYDD y bwyd-offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.
9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
10A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.
11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymoch i’r ARGLWYDD; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r ARGLWYDD.
12Offrymwch i’r ARGLWYDD offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
13Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy DDUW o fod ar dy fwyd-offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
14Ac os offrymi i’r ARGLWYDD fwyd-offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd-offrwm yw.
16A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r ARGLWYDD yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
