1Yn y ddeuddegfed flwyddyn o deyrnasiad Nabuchodonosor, yr hwn a deyrnasodd yn Ninefe y ddinas fawr, yn nyddiau Arffacsad, yr hwn a deyrnasodd ar y Mediaid yn Ecbatane,
2Ac a adeiladodd yn Ecbatane furiau oddi amgylch, o gerrig nadd, yn dri chufydd o led, ac yn chwe chufydd o hyd, ac a wnaeth uchder y mur o ddeg cufydd a deugain;
3A’i thyrau hi a osododd efe ar ei phyrth o gan cufydd, a’u tewdwr yn eu sylfaen o dri ugain cufydd;
4Ac efe a wnaeth ei phyrth hi yn byrth dyrchafedig, o ddeg cufydd a thrigain o uchder, a’u lled yn ddeugain cufydd, yn ffordd i’w luoedd galluog i fyned allan, ac i fyddino ei wŷr traed ef:
5Ie, yn y dyddiau hynny y brenin Nabuchodonosor a ryfelodd yn erbyn y brenin Arffacsad yn y maes mawr, hwn yw’r maes yn ardaloedd Ragau.
6Yna holl drigolion y mynydd-dir, a’r holl rai oedd yn preswylio wrth Ewffrates, a Thigris, a Hydaspes, a gwlad Arioch brenin yr Elymiaid, a ddaethant ato ef: a llawer iawn o genhedloedd o feibion Celod a ymgynullasant i’r gad.
7A Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid a anfonodd at yr holl rai oedd yn trigo o fewn Persia, a’r holl rai oedd yn trigo yn y gorllewin, ac at y rhai oedd yn preswylio yn Cilicia, a Damascus, a Libanus, ac Antilibanus, ac at yr holl rai oedd yn preswylio ar hyd wyneb y mordir,
8Ac at y bobloedd y rhai oedd o fewn Carmel, a Galaad, a Galilea uchaf, a maes mawr Esdrelom,
9Ac at yr holl rai oedd yn Samaria a’i dinasoedd; a thu hwnt i’r Iorddonen, hyd Jerwsalem, a Betane, a Chelius, a Chades, ac afon yr Aifft, a Thaffnes, a Ramesse, a holl wlad Gesem,
10Hyd oni ddelir y tu hwnt i Danais a Memffis, ac at holl drigolion yr Aifft, oni ddelir i derfynau Ethiopia.
11Ond holl drigolion y wlad a ddiystyrasant orchymyn Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid, ac ni ddaethant gydag ef i’r rhyfel; oherwydd nid ofnasant rhagddo ef: ie, yr oedd efe ger eu bronnau hwynt megis un gŵr: am hynny hwy a anfonasant ymaith ei genhadau ef oddi wrthynt heb eu neges, trwy amarch.
12Am hynny Nabuchodonosor a lidiodd yn erbyn yr holl wlad hon yn ddirfawr, ac a dyngodd i’w deyrngadair a’i frenhiniaeth, yr ymddialai efe ar holl derfynau Cilicia, a Damascus, a Syria, ac y lladdai efe â’r cleddyf holl breswylwyr gwlad Moab, a meibion Ammon, a holl Jwdea, a’r rhai oll oedd yn yr Aifft, hyd oni ddelir i derfynau y ddeufor.
13Yna efe a fyddinodd â’i gryfdwr yn erbyn y brenin Arffacsad, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg; ac efe a orchfygodd yn ei ryfel: canys efe a ymchwelodd holl nerth Arffacsad, a’i holl feirch ef, a’i holl gerbydau.
14Ac efe a enillodd ei ddinasoedd ef; ac a ddaeth hyd Ecbatane, ac a oresgynnodd y tyrau, ac a anrheithiodd ei heolydd hi, ac a osododd ei harddwch hi yn waradwydd.
15Ac efe a ddaliodd Arffacsad ym mynyddoedd Ragau, ac a’i trawodd trwyddo â’i bicellau, ac a’i distrywiodd ef yn llwyr y dwthwn hwnnw.
16Felly efe a ddychwelodd i Ninefe, efe a’i holl fintai o amryw genhedloedd, yn dyrfa fawr iawn o ryfelwyr; ac efe a fu yno yn segura ac yn gwledda, efe a’i lu, dros gant ac ugain o ddiwrnodiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.