Titus 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb;

2I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd;

3Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;

4At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.

5Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti:

6Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:

7Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa;

8Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;

9Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.

10Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer-siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad:

11Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw.

12Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog.

13Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd;

14Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.

15Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di-ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy.

16Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help