1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon;
2Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd,
3Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.
4A’r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed.
5Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd:
6Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.
7Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr ARGLWYDD, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.
8Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,
9Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol.
10Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt.
11A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.
12A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.
13Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.
14Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.
15Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.
16A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.
17Yna mi a gymerais y ffiol o law yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD fi atynt:
18I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;
19I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl;
20Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod;
21I Edom, a Moab, a meibion Ammon;
22I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr;
23I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf;
24Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch;
25Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;
26Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.
27A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith.
28Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Diau yr yfwch:
29Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd ARGLWYDD y lluoedd.
30Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr ARGLWYDD oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.
31Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.
32Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.
33A lladdedigion yr ARGLWYDD a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.
34Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.
35Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc.
36Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr ARGLWYDD a anrheithiodd eu porfa hwynt.
37A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
38Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.