1O DDUW, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O DDUW.
2Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
4Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
5Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn;
6Pebyll Edom, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid;
7Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
8Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
9Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
11Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau DUW i’w meddiannu.
13Gosod hwynt, O fy NUW, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
15Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.
16Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O ARGLWYDD.
17Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:
18Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
