Jeremeia 34 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân:

3Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon.

4Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr ARGLWYDD; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:

5Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr ARGLWYDD.

6Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,

7Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

8Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid;

9I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

10A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith.

11Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

12Am hynny y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

13Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd,

14Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

15A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno:

16Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

17Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr ARGLWYDD, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

18A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau;

19Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

20Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

21A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.

22Wele, mi a orchmynnaf, medd yr ARGLWYDD, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help