1 Samuel 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.

2A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.

3A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion.

4Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.

6Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

7A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.

8A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

9A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.

10A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.

11A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;

12Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno.

13A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help