Jeremeia 36 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

2Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.

3Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod.

4Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.

5A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr ARGLWYDD.

6Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr ARGLWYDD, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darlleni di hwynt.

7Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn.

8Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr ARGLWYDD yn nhŷ yr ARGLWYDD.

9Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.

10Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD, lle y clybu yr holl bobl.

11Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr ARGLWYDD allan o’r llyfr,

12Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion.

13A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.

14Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.

15A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a’i darllenodd lle y clywsant hwy.

16A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin.

17A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef?

18Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â’i enau, a minnau a’u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.

19Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.

20A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.

21A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

22A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron.

23A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.

24Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

25Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.

26Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a’u cuddiodd hwynt.

27Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,

28Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda:

29A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?

30Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos.

31A mi a ymwelaf ag ef, ac â’i had, ac â’i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant.

32Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help