1Ac am yr arwyddion, wele, y dyddiau a ddaw, pan ddalier trigolion y ddaear yn rhifedi mawr; a ffordd y gwirionedd a guddir, a’r tir a fydd diffrwyth o ffydd.
2A drygioni a chwanega yn fwy na’r hyn a weli di yn awr, neu’r hyn a glywaist er ys talm.
3A’r wlad yr hon a weli di yn awr â gwreiddyn iddi, a gei di ei gweled yn ddisymwth yn anghyfannedd.
4Ond os y Goruchaf a rydd i ti hoedl, ti a gei weled yn ôl y trydydd utgorn, y tywynna’r haul yn ddisymwth y nos, a’r lleuad dair gwaith yn y dydd:
5A gwaed a ddifera o’r coed, a’r garreg a lefara, a’r bobl a drallodir:
6A’r neb ni ddisgwyl preswylwyr y ddaear amdano, a deyrnasa; a’r adar a newidiant drigfannau:
7A môr Sodom a fwrw allan bysgod, ac a rua’r nos, yn ddieithr i lawer; ond pawb a gaiff glywed ei lais ef:
8A phethau fydd allan o drefn yn llawer lle, a’r tân a yrrir allan drachefn yn fynych, a’r anifeiliaid gwylltion a newidiant eu lleoedd, a’r gwragedd misglwyfus a esgorant ar angenfilod:
9A dwfr hallt a geir yn y croyw, a chyfeillion a ddistrywiant bob un ei gilydd, a’r synnwyr a guddir; a deall a neilltuir i le dirgel,
10A llawer a’i cais, ac nis cânt: ac anghyfiawnder ac anniweirdeb a amlheir ar y ddaear.
11A’r naill wlad a ofyn i’r llall, gan ddywedyd, A aeth cyfiawnder, yr hon a wna ddyn yn gyfiawn, trwot ti? a hithau a ddywed, Naddo.
12Y pryd hynny y gobeithia pobl, ac nis caffant ddim; llafuriant, a’u ffyrdd ni lwydda.
13Cefais gennad i ddangos i ti y cyfryw arwyddion: os tydi a weddïi eilwaith, ac os wyli fel yn awr, ac os ymprydi saith niwrnod, ti a gei glywed pethau mwy na hyn.
14Yna mi a ddeffroais, ac fe aeth trwy fy holl gorff ofn dirfawr, a’m meddwl a drallodwyd, fel y llewygodd.
15A’r angel yr hwn a ddaeth i ymddiddan â mi, a’m daliodd i, ac a’m cysurodd, ac a’m gosododd ar fy nhraed.
16A digwyddodd, yr ail nos i Salathiel tywysog y bobl ddyfod ataf gan ddywedyd, Pa le y buost ti? a phaham y mae mor drwm yr olwg arnat?
17Oni wyddost ti ddarfod gorchymyn Israel i ti yng ngwlad eu caethiwed?
18Cyfod gan hynny, a bwyta fara, ac na ad ddim ohonom ni, fel bugail a adawai ei ddefaid yn nwylo bleiddiaid creulon.
19Yna y dywedais wrtho, Dos ymaith oddi wrthyf, ac na thyred ataf fi. Ac efe a glybu yr hyn a ddywedais, ac a aeth oddi wrthyf.
20A mi a ymprydiais saith niwrnod, gan alaru ac wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.
21Ac ymhen y saith niwrnod, meddyliau fy nghalon oedd yn flinion aruthr wrthyf eilwaith.
22A’m henaid a gymerodd drachefn ysbryd deall, a mi a ddechreuais draethu ymadroddion gerbron y Goruchaf;
23A dywedais, O Arglwydd lywydd, o holl goed y ddaear, ac o’u holl brennau, ti a ddewisaist unlwinwydden yn unig;
24O holl diroedd yr holl fyd, ti a ddewisaist i ti un pydew; ac o’i holl flodau ef, un lili;
25Ac o holl ddyfnderau’r môr, ti a lenwaist un afon; ac o’r holl ddinasoedd a adeiladwyd, ti a sancteiddiaist Seion i ti dy hun;
26Ac o’r holl ehediaid a grewyd, ti a enwaist i ti un golomen; ac o’r holl anifeiliaid a wnaed, ti a ddarperaist i ti un ddafad;
27Ac ymysg holl liaws pobloedd, ti a enillaist i ti un genedl: a rhoddaist i’r genedl honno a geraist, gyfraith sy gymeradwy gan bawb.
28Ac yn awr, Arglwydd, paham y rhoddaist i fyny yr un genedl hon i lawer? ac y gosodaist eraill ar yr un gwreiddyn? a phaham y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith llaweroedd?
29A’r rhai a wrthwynebasant dy addewidion, ac ni chredasant dy gyfamodau, a’u sathrasant hwy i lawr.
30Os gan gasáu y caseaist dy bobl, dy ddwylo di a ddylai eu cosbi hwynt.
31Ac wedi i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd yr angel ataf, yr hwn a ddaethai ataf y nos o’r blaen;
32Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwrando arnaf, a mi a’th ddysgaf; ystyr y peth a draethwyf, a mi a ddangosaf i ti fwy.
33A mi a ddywedais wrtho, Dywed, fy Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ydwyt yn fawr trallod dy feddwl er mwyn Israel: a wyt ti yn caru’r bobl hynny yn well nag y mae’r hwn a’u gwnaeth hwynt?
34A dywedais, Nac wyf, Arglwydd; ond o wir ofid y lleferais: canys fy arennau a’m penydiant bob awr, wrth geisio deall ffordd y Goruchaf ac wrth chwilio am ran o’i farnedigaethau ef.
35Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ni elli di hynny. A dywedais innau, Paham, Arglwydd? i ba beth y’m ganwyd? neu pa achos na bu groth fy mam yn fedd i mi, fel na chawswn weled poen Jacob, a blinder had Israel?
36Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhifa i mi y pethau sydd eto heb ddyfod, casgl ynghyd y defnynnau sydd ar led, a gwna’r llysiau gwywon yn leision eilchwyl,
37Agor i mi y lleoedd caeëdig, a dwg allan i mi y gwyntoedd a gaewyd ynddynt, dangos i mi lun lleferydd; ac yna y dangosaf i tithau y peth yr wyt yn ymboeni i’w weled.
38A mi a ddywedais, O Arglwydd lywydd, pwy a all wybod y pethau hyn, ond y neb nid yw ei drigfa ymhlith dynion?
39A minnau, annoeth ydwyf: pa fodd wrth hynny y gallaf ddywedyd am y pethau y gofynnaist i mi?
40Ac efe a ddywedodd wrthyf, Fel na fedri wneuthur un o’r pethau hyn a enwyd, felly ni elli gael allan fy marn i, neu’r caredigrwydd a addewais i’m pobl yn y diwedd.
41Yna mi a ddywedais, Wele, O Arglwydd, cyfagos wyt ti at y rhai a fyddant yn y diwedd; a pha beth a wna y rhai a fu o’m blaen i? neu ninnau y rhai ydym yr awr hon, neu y rhai a ddaw ar ein hôl ni?
42Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyffelybaf fy marn i fodrwy: fel nad oes annibendod o’r diwethaf, felly nid oes brysurdeb o’r cyntaf.
43Minnau a atebais, gan ddywedyd, Oni allasit ti wneuthur y rhai sy wedi eu gwneuthur, a’r rhai sydd yn awr, a’r rhai a ddaw, ar unwaith, fel y dangosit dy farn yn gynt?
44Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Ni all y creadur brysuro uwchlaw y Creawdwr, ac ni all y byd gynnwys ar unwaith y rhai a wneir ynddo ef.
45A minnau a ddywedais, Fel y dywedaist i’th was, mai tydi, yr hwn a fywhei bob peth, a roddaist fywyd ar unwaith i’r creadur a wnaethost, a’r creadur a’i dioddefodd; felly y gallai efe gynnwys y rhai sydd yn awr ar unwaith.
46Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gofyn i groth gwraig, a dywed wrthi, Os wyt ti yn dwyn plant, paham na wnei di hynny ar unwaith, ond y naill ar ôl y llall? dymuna arni gan hynny ddwyn deg ar unwaith.
47A mi a ddywedais, Ni ddichon hi: eithr rhaid iddi wneuthur hynny wrth ysbaid amser.
48Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly minnau a roddais groth y ddaear i’r rhai a heuwyd ynddi yn eu hamseroedd:
49Canys megis na ddichon dyn bach ieuanc ddwyn i’r byd y pethau a berthynant i’r oedrannus, felly y trefnais i y byd yr hwn a wneuthum.
50Ac mi a ofynnais, ac a ddywedais, Gan i ti yn awr roddi i mi y ffordd, myfi a af rhagof i lefaru o’th flaen di: canys ein mam ni, yr hon a ddywedaist i mi ei bod yn ieuanc, sydd yn awr yn heneiddio.
51Efe a’m hatebodd i, gan ddywedyd, Gofyn i wraig sydd yn planta, a hi a ddywed i ti:
52Dywed wrthi hi, Paham nad yw y plant a ddygaist yn awr, debyg i’r rhai o’r blaen, ond yn llai o gorffolaeth?
53A hithau a’th etyb, Un fath sydd ar y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenctid, a math arall ar y rhai a anwyd yn amser oedran, pan oedd y groth yn pallu.
54Ystyria dithau gan hynny, fel yr ydych chwi yn llai o gorffolaeth na’r rhai a fu o’ch blaen chwi;
55Ac felly y mae’r rhai a ddaw ar eich ôl chwi yn llai na chwithau, megis creaduriaid yn dechrau heneiddio ac wedi myned dros gryfder ieuenctid.
56A dywedais, Atolwg i ti, Arglwydd, os cefais ffafr yn dy olwg di, dangos i’th was trwy bwy yr ymweli â’th greadur.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.