1Eithr dicter didrugaredd a barhaodd hyd y diwedd i’r annuwiolion: oblegid efe a wyddai o’r blaen yr hyn a wnaent hwy;
2Sef wedi iddynt roddi cennad iddynt i fyned ymaith, a’u gyrru hwy ar frys, y byddai edifar ganddynt, ac yr erlidient hwynt;
3Canys pan oeddynt yn galaru ac yn wylofain wrth feddau’r meirw, hwy a ddychmygasant feddwl ynfyd arall; a’r rhai a yrasent allan dan ymbil â hwynt a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.
4Oblegid y dynged a haeddent a’u harweiniodd hwynt i’r diwedd hwn, ac a wnaeth iddynt anghofio y pethau a ddigwyddasent eisoes, fel y cyflawnent hwy y gosbedigaeth oedd yn ôl i’w dialedd hwy:
5Ac fel y câi dy bobl di fyned trwy ffordd ryfedd, ac y caent hwythau farwolaeth ddieithr:
6Oblegid pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd drachefn o newydd, i wasanaethu’r gorchmynion priodol a roddwyd iddynt, fel y cedwid dy blant di yn ddiniwed.
7Y cwmwl a gysgododd dros y gwersyll; a lle y buasai dwfr o’r blaen, y gwelid tir sych, ie, yn y môr coch yr oedd ffordd ddi-rwystr, a maes yn dwyn gwelltglas yn y ffrwd chwyrn;
8Trwy yr hon yr aeth yr holl genedl a amddiffynnodd dy law di, gan weled gwyrthiau rhyfedd.
9Fel meirch y porthasid hwynt, ac fel ŵyn y llament hwy, gan dy foliannu di, O Arglwydd, eu Gwaredydd.
10Oblegid hwy a gofient eto y pethau a ddigwyddasai tra’r oeddynt yn ymdaith yn y wlad ddieithr; y modd yn lle epiliaeth anifeiliaid y dygasai’r ddaear allan wybed, ac y dygasai yr afon allan lawer o lyffaint yn lle pysgod.
11Eithr wedi hynny hwy a welsant epiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flys i ddymuno bwyd danteithiol:
12Oblegid soflieir a ddaeth i fyny o’r môr, yn ddiddanwch iddynt hwy.
13Ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd, nid heb wyrthiau o’r blaen, trwy egni taranau: oherwydd yr oeddynt hwy yn haeddu dioddef am eu hanwiredd; oblegid yr oeddynt yn dwyn dygngas i ddieithriaid.
14Canys y Sodomiaid ni dderbynient y rhai nid adwaenent, pan ddaethant: eithr y rhai hyn a gaethiwasant y dieithriaid a wnaethai iddynt ddaioni.
15Ac nid hynny yn unig, eithr ysgatfydd fe a edrychir peth ar y rhai hynny, am iddynt drin dieithriaid yn anghyweithas.
16Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen, a gystuddiasant â phoenau aruthrol, y rhai oedd yn awr gyfranogion o’r un gyfraith.
17A’r rhai hyn a drawyd â dallineb, fel y trawsid y rhai hynny wrth ddrws y cyfiawn, pan geisiodd pob un y ffordd i’w ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu â thywyllwch anferthol.
18Oblegid yr elfennau a newidiwyd ohonynt eu hunain yn gyson, fel y newidia sain cynghanedd mewn saltring, enw y dôn, er bod y sŵn yn aros bob amser, megis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.
19Canys y pethau daearol a droed yn bethau o’r dwfr, a phethau nofiadwy a gerddasant ar y ddaear.
20Y tân oedd nerthol yn y dwfr, wedi gollwng dros gof ei rinwedd ei hun; a’r dwfr a anghofiasai ei naturiaeth i ddiffoddi.
21Yn y gwrthwyneb, ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid llygradwi, y rhai a rodient ynddo, nac i’r ymborth nefol, ddarfod, er ei fod fel iâ tawddadwy o rywogaeth i doddi.
22Canys dy bobl a fawrygaist ac a anrhydeddaist ym mhob dim, O Arglwydd: ac ni ddiystyraist hwynt; ond bod gyda hwynt bob amser, ac ym mhoblle.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.