Eseciel 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o’th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem:

2A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.

3Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.

5Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.

6A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.

7A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a’th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.

8Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.

9Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.

10A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.

11Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.

12Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt.

13A dywedodd yr ARGLWYDD, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.

14Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd.

15Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara.

16Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.

17Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help