Y Salmau 105 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 105

1Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

2Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

3Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.

4Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.

5Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;

6Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.

7Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.

8Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:

9Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac;

10A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;

11Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

12Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:

13Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:

14Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;

15Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

16Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

17Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.

18Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:

19Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.

20Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef.

21Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:

22I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef.

23Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.

24Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.

25Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.

26Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.

27Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

29Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

30Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;

35Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

40Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol.

41Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

42Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

43Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

44Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

45Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help