II Esdras 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 10

1Ac felly y digwyddodd i’m mab, pan aeth efe i’w ystafell briodas, efe a syrthiodd i lawr, ac a fu farw.

2Yna ni oll a ddiffoddasom y canhwyllau, a’m holl gymdogion a godasant i fyny i’m cysuro i; yna y gorffwysais hyd y nos yr ail dydd.

3A phan ddarfu iddynt hwy oll beidio â’m cysuro, fel y cawn lonydd; yna y cyfodais o hyd nos, ac y ffoais, ac a ddeuthum i’r maes hwn, fel y gweli di.

4Ac y mae yn fy mryd nad elwyf yn fy ôl i’r ddinas, ond aros yma, heb na bwyta nac yfed, ond galaru yn wastadol, ac ymprydio, hyd oni byddwyf farw.

5Yna y gollyngais ymaith y myfyrdod oedd ynof, ac a leferais wrthi hi yn ddicllon, gan ddywedyd,

6Tydi ffolog uwchlaw pawb arall, oni weli di ein galar ni, a pha beth a ddigwydd i ni?

7Fel y mae Seion ein mam ni yn llawn tristwch, ac fel y dygwyd hi hyd lawr, ac y mae hi yn galaru yn anianol?

8Gan ein bod ni oll yn awr mewn trymder, ac yn cwyno, canys trist ydym oll; wyt ti cyn drymed ar ôl un mab?

9Gofyn i’r ddaear, a hi a ddywed i ti, mai hi a ddylai alaru am gwymp cymaint ag y sydd yn tyfu arni.

10Canys o’r dechreuad, pob dyn a ddaeth ohoni hi, ac ohoni y daw yr holl rai eraill: ac wele, y maent oll agos yn rodhio i ddistryw, a’r lliaws ohonynt a ddadwreiddir.

11Pwy wrth hynny a ddylai alaru mwy na hi, yr hon a gollodd gymaint o rifedi? ac nid tydi, yr hon nid wyt yn drist ond am un.

12Ond pe dywedit wrthyf, Nid yw fy ngalar debyg i alar y ddaear: canys mi a gollais ffrwyth fy nghroth, yr hwn a ddygais i’r byd trwy boen, ac a ymddugum trwy dristwch;

13Ond y ddaear yn ôl arfer y ddaear; oblegid y gynulleidfa bresennol sydd yn myned iddi drachefn, fel y daeth ohoni.

14Am hynny y dywedaf wrthyt, Fel y dygaist i’r byd trwy drafael; felly y ddaear hefyd o’r dechreuad a roddes ei ffrwyth, sef dyn, i’r hwn a’i gwnaeth hi.

15Ac am hynny, cadw dy drymder i ti dy hun, a’r peth a ddigwyddodd i ti, a dioddef yn wrol.

16Canys os berni di arfaeth Duw yn gyfiawn, ac os derbynni di gyngor, dy fab mewn amser a gei, a chlod ymysg gwragedd.

17Dos gan hynny ymaith i’r ddinas at dy ŵr.

18A hithau a ddywedodd wrthyf, Ni wnaf fi mo hynny: nid af fi i’r ddinas, ond yma y byddaf farw.

19Felly mi a chwedleuais fwy â hi, ac a ddywedais,

20Paid â hynny, cymer gyngor gennyf fi: pa sawl cwymp a gafodd Seion? bydd gysurus oherwydd tristwch Jerwsalem;

21Canys ti a weli fod ein cysegr ni yn anialwch, ein hallor wedi ei thorri, a’n teml wedi ei hanrheithio,

22Ein saltringau a fwriwyd i lawr, ein cân a ddistawyd, ein llawenydd a aeth ymaith, ein canhwyllau a ddiffoddwyd, arch ein cyfamod a ddygwyd oddi arnom, ein sanctaidd bethau a halogwyd, a’r enw a enwir arnom a halogwyd agos, ein plant a waradwyddwyd, ein hoffeiriaid a losgwyd, ein Lefiaid a gaethgludwyd, ein morynion a anrheithiwyd, ein gwragedd a dreisiwyd, ein gwŷr cyfiawn a dducpwyd ymaith, ein rhai bychain a ddifethwyd, ein gwŷr ieuainc a gaethiwyd, a’n gwŷr cryfion a wanhawyd;

23A sêl Seion, yr hyn sydd fwyaf dim, a gollodd ei pharch: canys rhoddwyd hi yn nwylo y rhai a’n casânt.

24Ac am hynny, bwrw heibio dy drymder mawr, a’th fynych alar, fel y byddo’r Galluog yn drugarog wrthyt, ac y rhoddo’r Goruchaf i ti esmwythdra, a gorffwystra oddi wrth dy lafur.

25Ac fel yr oeddwn yn ymddiddan â hi, wele, ei hwyneb hi a ddisgleiriodd yn ddisymwth, a’i phryd a dywynnodd: a mi a ofnais, ac a fyfyriais beth a allai hynny fod.

26Ac yn y man hi a lefarodd yn gryf ac yn ofnadwy, hyd oni chrynodd y ddaear gan nâd y wraig.

27A mi a edrychais, ac wele, nid ymddangosodd y wraig i mi mwy: ond yr oedd dinas wedi ei hadeiladu, a lle eang a ymddangosodd o’r sylfeini: yna yr ofnais, ac y gwaeddais â llef uchel, gan ddywedyd,

28Pa le y mae Uriel yr angel, yr hwn a ddaeth ataf yn y dechrau? canys gwnaeth i mi syrthio mewn llawer llewyg, a’m diwedd a ddychwelwyd i lygredigaeth, a’m gweddi i gerydd.

29A minnau yn dywedyd y geiriau hyn, efe a ddaeth ataf, ac a edrychodd arnaf.

30Ac wele, yr oeddwn i yn gorwedd fel un marw, a’m deall wedi ei ddwyn oddi arnaf: ac efe a’m cymerth i erbyn fy llaw ddeau, ac a’m cysurodd, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ddywedodd wrthyf,

31Beth a ddarfu i ti? paham y mae dy feddwl a deall dy galon mor drallodus? a phaham yr wyt yn drist?

32A minnau a ddywedais, Am i ti fy ngwrthod i: a mi a wneuthum yn ôl dy eiriau di, euthum i’r maes, ac wylais; ac wele, mi a welais, ac eto y gwelaf, bethau ni fedraf eu hadrodd.

33Ac efe a ddywedodd wrthyf, Saf ar dy draed fel gŵr, a mi a roddaf i ti gyngor.

34Yna y dywedais, Llefara di wrthyf fi, fy Arglwydd: yn unig na wrthod fi, rhag i mi farw yn ofer fy ngobaith:

35Canys mi a welais bethau nis adwaenwn, a chlywais bethau nis gwyddwn.

36Neu ydyw fy synnwyr yn fy nhwyllo? neu fy enaid yn breuddwydio?

37Yn awr atolwg i ti, dangos i’th was am y weledigaeth hon.

38Yna efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Gwrando arnaf, a mi a’th ddysgaf, ac a ddangosaf i ti paham yr wyt yn ofni: canys y Goruchaf a ddangosodd i ti lawer o ddirgelwch.

39Y Goruchaf a welodd fod dy ffordd di yn uniawn: canys yr ydwyt yn cymryd trymder yn wastadol dros dy bobl, ac yn gwneuthur galar mawr am Seion.

40Ac am hynny, deall y weledigaeth a welaist ychydig o’r blaen sydd fel hyn:

41Ti a welaist wraig yn galaru, ac a ddechreuaist ei chysuro hi:

42Eithr yn awr, ni weli mwy lun y wraig, ond ymddangosodd i ti ddinas wedi ei hadeiladu.

43A lle y dywedodd i ti am farwolaeth ei mab, hyn yw’r peth sydd i’w ddeall:

44Y wraig hon a welaist ti yw Seion: a lle y dywedodd i ti, (yr hon a weli yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu,)

45Lle y dywedodd wrthyt ei bod ddeng mlynedd ar hugain yn hesb: dyna’r deng mlynedd ar hugain, yn y rhai ni offrymid offrwm ynddi.

46Ond yn ôl deng mlynedd ar hugain, Salomon a adeiladodd y ddinas, ac a offrymodd offrymau: ac yna’r hesb a ddug fab.

47A lle y dywedodd hi i ti, Mi a’i megais ef trwy boen: hynny oedd preswylio yn Jerwsalem.

48Ond lle y dywedodd hi i ti, Syrthiodd a bu farw fy mab, wrth ddyfod i’w ystafell briodas: dyna’r cwymp a ddaeth i Jerwsalem.

49Ac wele, ti a welaist ei llun hi; ac am ei bod yn galaru am ei mab, ti a ddechreuaist roddi cysur iddi hi. Ac o’r pethau hyn a ddigwyddodd, hyn sy raid ei ddangos i ti:

50Canys yn awr y Goruchaf sydd yn gweled dy fod yn drist dy enaid, a’th fod yn dioddef tristwch drosti hi o’th galon; ac felly efe a ddangosodd i ti ddisgleirdeb ei gogoniant hi, a thegwch ei phryd hi.

51Ac am hynny y perais i ti aros yn y maes, lle nid oedd un tŷ wedi ei adeiladu;

52Canys mi a wyddwn y dangosai’r Goruchaf hyn i ti.

53Am hynny y gorchmynnais i ti fyned i’r maes, lle nid oes sail adeilad yn y byd.

54Canys yn y man lle y dechreuo’r Goruchaf ddangos ei ddinas, ni ddichon adeiladaeth dyn sefyll yno.

55Ac am hynny nac ofna, ac na ad i’th galon arswydo, ond dos i mewn, ac edrych ar degwch a maint yr adeiladaeth; cymaint ag a ellych â’th lygaid ei weled.

56Ac wedi hynny y cei di glywed cymaint ag a allo dy glustiau ei glywed.

57Canys bendigedig wyt ti uwchlaw llaweroedd, ac fe a’th alwyd gan y Goruchaf: ac ychydig sydd felly.

58Ond yfory y nos y cei di aros yma.

59Ac felly y Goruchaf a ddengys i ti weledigaethau o’r pethau uchel a wna’r Goruchaf i’r rhai a fyddo’n trigo ar y ddaear, yn y dyddiau diwethaf. Felly y cysgais y noson honno, a’r ail nos, fel y gorchmynnodd efe i mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help