Y Salmau 73 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 73Salm Asaff.

1Yn ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon.

2Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.

3Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.

5Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.

6Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.

7Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.

8Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.

9Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.

10Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

11Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.

13Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.

15Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;

17Hyd onid euthum i gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.

19Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.

20Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt.

21Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.

22Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.

23Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.

24A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.

25Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi.

26Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.

27Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.

28Minnau, nesáu at DDUW sydd dda i mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help