2 Cronicl 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y llefarodd Solomon, Yr ARGLWYDD a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch;

2A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd.

3A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.

4Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd,

5Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:

6Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.

7Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.

8Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:

9Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.

10Am hynny yr ARGLWYDD a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr ARGLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.

11Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.

12A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo:

13Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:

14Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes DUW cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon:

15Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn.

16Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.

17Yn awr gan hynny, O ARGLWYDD DDUW Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd.

18Ai gwir yw, y preswylia DUW gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i?

19Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy NUW, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron:

20Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos, tua’r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon.

21Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau.

22Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

23Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.

24A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:

25Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy, ac i’w tadau.

26Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt:

27Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.

28Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;

29Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a’i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn:

30Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;)

31Fel y’th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i’n tadau ni.

32Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a’th law gadarn, a’th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn:

33Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y’th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.

34Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:

35Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

36Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt, a’u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;

37Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;

38Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:

39Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn.

40Yn awr, O fy NUW, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir tua’r lle yma.

41Ac yn awr cyfod, O ARGLWYDD DDUW, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O ARGLWYDD DDUW, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.

42O ARGLWYDD DDUW, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help