Sechareia 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.

2A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

3Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef.

4Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn.

5Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

6Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.

7O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.

8Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.

9Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd.

10Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.

11A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd atat.

12A’r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.

13Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help