1Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.
2Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.
3O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
4A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu DUW.
5Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu DUW: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.
6Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
8Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
9Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur-ganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.
11Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.
12Celwyddog fuant yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:
13A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.
14Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt.
15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant.
16Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
17A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â’r cleddyf.
18Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein DUW hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
20Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd,
21Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
22Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
23Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
24Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
25Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.
26Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.
27Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.
28Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.
29Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
30Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:
31Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.