II Macabeiad 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 6

1Ychydig yn ôl hynny y brenin a ddanfonodd hynafgwr o Antiochia i gymell yr Iddewon i ymado â chyfreithiau eu tadau, fel nas llywodraethid hwy mwyach wrth gyfraith Dduw;

2Ac i halogi’r deml oedd yn Jerwsalem, efe a’i galwodd yn deml Jwpiter Olympius; a’r hon oedd yn Garisim, megis y rhai a gyfanheddent yn y man hwnnw, a alwodd efe yn deml Jwpiter Leteugar.

3Dyfodiad yr aflwydd yma oedd drwm a blin i’r bobl;

4Canys y deml a lanwyd o lythineb a meddwdod gan y Cenhedloedd, y rhai oeddynt yn ymchwarae â phuteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bod iddynt a wnelent â gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd weddaidd.

5A’r allor a lanwasid o bethau anghyfreithlon, y rhai a waharddasai y gyfraith.

6Nid rhydd oedd chwaith gadw’r Saboth, na chadw gwyliau eu hynafiaid, nac yn eglur gyfaddef eu bod yn Iddewon.

7Ar ddydd genedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt, heb ddiolch, fyned bob mis i fwyta o’r ebyrth: a phan gedwid gŵyl Bacchus, fe a orfyddai iddynt fyned yn orfoleddus, ag eiddew ganddynt, er anrhydedd i Bacchus.

8Ac fe aeth gorchymyn allan i ddinasoedd cyfnesaf y Groegwyr, trwy gyngor Ptolemeus, yn erbyn yr Iddewon, ar iddynt ddilyn yr unrhyw arferion, a bod yn gyfranogion o’u hebyrth hwynt;

9Ac ynghylch lladd y rhai ni fynnent ganlyn arferion y Groegwyr. Y pryd hynny y gallasai un weled y gofid presennol:

10Canys dygwyd allan ddwy o wragedd, y rhai a enwaedasent ar eu plant; ac wedi eu harwain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a’r rhai bychain ynghrog wrth eu bronnau, hwy a fwriwyd i lawr bendramwnwgl oddi ar y gaer.

11Rhai eraill a gydredasent yn eu mysg eu hunain i ogofeydd, fel y gallent yn ddirgel gadw’r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gydlosgwyd: oblegid ni feiddient eu helpu eu hunain, oherwydd parch ar y dydd anrhydeddus.

12Am hynny yr wyf yn atolwg i’r rhai a ddarllenant y llyfr hwn, nas digysurer hwy oherwydd yr adfyd hyn: ond meddyliant fod y cosbedigaethau hyn yn perthynu nid i ddinistr, ond i geryddiad, ein cenedl ni.

13Canys pan na oddefir y rhai a wnelont yn annuwiol, ond syrthio ohonynt yn gyflym i gosbedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Duw.

14Canys nid yw yr Arglwydd yn hir aros wrthym ni, megis wrth genhedloedd eraill, y rhai y mae efe yn eu cosbi pan ddelont i gyflawndra eu pechodau; ond fel hyn y bu dda ganddo wneuthur â ni,

15Rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflawnid ein pechodau.

16Am hynny ni ddwg byth mo’i drugaredd oddi wrthym; ond dan eu ceryddu ag adfyd, nid ymedy efe â’i bobl ei hun.

17A bydded hyn a ddywedasom yn rhybudd i ni. Bellach ni a ddeuwn at y traethawd ar ychydig eiriau.

18Eleasar, rhyw un o’r ysgrifenyddion pennaf, yn ŵr oedrannus, a glân o bryd, a orfu iddo agoryd ei enau, a bwyta cig moch.

19Ond efe yn well ganddo farw mewn parch, na byw wedi gwneuthur y fath ffieidd-dra, a aeth yn ewyllysgar i’r poenau, ac a’i poerodd allan,

20Fel y gweddai iddynt hwy ddyfod, y rhai sydd yn ymroi yn lân i sefyll yn erbyn y cyfryw bethau nid cyfreithlon eu profi, er serch ar einioes.

21Ond y rhai a osodasid yn llywodraethwyr y wledd annuwiol honno, oblegid y gydnabod oedd rhyngddynt er ys talm â’r gŵr hwn, a’i cymerasant o’r neilltu, ac a’i hanogasant i gymryd y cig a ddarparai efe ei hun, ac i arfer y pethau oedd gyfreithlon iddo; ond cymryd ohono arno megis pe bwytâi o gig y wledd, yn ôl y pethau a orchmynasid iddo gan y brenin;

22Fel y gallai wrth hyn ei achub ei hun oddi wrth angau, a derbyn y caredigrwydd hyn, er mwyn y gydnabod oedd rhyngddynt.

23Ond efe gan gymryd meddwl pwyllog, megis y gweddai i’w oedran, ac i ragoriaeth ei henaint a’i wallt llwyd parchedig, ac i’w rinweddol fuchedd er yn fachgen, ie, yn hytrach megis ag y gweddai i sanctaidd a duwiol gyfraith Dduw, a atebodd iddynt, gan atolwg ei ollwng yn fuan i’w feddrod;

24Canys nid gweddaidd, eb efe, yw i’n hoedran ni ragrithio, fel y tybio llawer o wŷr ieuainc ddychwelyd o Eleasar, yn ddeng mlwydd a phedwar ugain o oed, at arferion dieithr,

25Ac yr hudid hwythau hefyd oblegid fy rhagrith i, er mwyn ychydig amser i fyw, ac y byddai i mi ddwyn gwaradwydd a dirmyg i’m henaint.

26Canys er i mi allu dianc dros yr amser presennol oddi wrth gosbedigaeth ddynol: eto ni allaf ffoi oddi wrth law yr Hollalluog, nac yn fyw nac yn farw.

27Am hyn gan newidio bywyd yn wrol, ni a’m dangosaf fy hun yn addas i’m henaint:

28Yna y gadawaf i’r rhai ieuainc siampl nodedig i farw yn ewyllysgar ac yn wrol dros y sanctaidd a’r anrhydeddus gyfraith. Ac wedi dywedyd hyn, efe a aeth yn gyflym i’w arteithio.

29Yna y rhai a’i harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o’r blaen yn llid wrtho, pan glywsant ei ymadrodd: canys tybio a wnaethant ei fod wedi ynfydu.

30Hefyd, pan oedd ar farw oblegid y dyrnodiau, efe a ddywedodd, gan ochneidio, Eglur yw i’r Arglwydd, yr hwn sy ganddo sanctaidd wybodaeth, mai pan allaswn fy ngwaredu fy hun o angau, ddioddef ohonof fy nghuro yn dost ar hyd fy nghorff; a’m bod yn ewyllysgar yn dioddef y pethau hyn o ran fy mod yn ei ofni ef.

31Fel hyn y bu efe farw, gan adael ei farwolaeth yn siampl o galon ddihafarch, ac yn goffa am rinwedd nid yn unig i’r gwŷr ieuainc, ond i lawer eraill hefyd o’i genedl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help