1Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?
2Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.
3Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:
4Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
5Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.
6Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.
7Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.
8Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.
9Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth.
10Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.
11Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.
12Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.
13Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi.
14Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.
15Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.
16Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.
17Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt.
18Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.
19Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig.
20Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:
21I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.
22Yr ARGLWYDD a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.
23Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.
24Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.
25Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd:
26Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd.
27Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:
28Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:
29Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:
30Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;
31Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
32Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.
33Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.
34Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.
35Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD.
36Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.