1A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda.
2Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Molada,
3A Hasar-sual, a Bala, ac Asem,
4Ac Eltolad, a Bethul, a Horma,
5A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susa,
6A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:
7Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:
8A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o’r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.
9O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;
13Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah-heffer, i Ittah-casin; ac yn myned allan i Rimmon-methoar, i Nea.
14A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.
15Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
16Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
17Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.
18A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem.
19A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath.
20A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21A Remeth, ac En-gannim, ac Enhada, a Beth-passes.
22A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
23Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
24A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.
25A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,
26Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin, ac i Sihor-libnath:
27Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth-emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.
29A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.
30Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.
31Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
32Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.
33A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth-tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul.
35A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36Ac Adama, a Rama, a Hasor,
37A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,
38Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
39Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
40Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.
41A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir-semes,
42A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,
43Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,
44Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,
45A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,
46A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo.
47A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.
48Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
49Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath-sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.