Genesis 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?

2A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:

3Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.

4A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.

5Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.

6A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.

7A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.

8A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ymysg prennau yr ardd.

9A’r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?

10Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.

11A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?

12Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais.

13A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum.

14A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes.

15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.

16Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.

17Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.

18Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di.

19Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid ohoni y’th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.

20A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.

21A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd amdanynt hwy.

22Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:

23Am hynny yr ARGLWYDD DDUW a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio’r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni.

24Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help