Y Salmau 26 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 26Salm Dafydd.

1Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf.

2Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon.

3Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.

5Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf.

6Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf:

7I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

8 ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.

9Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:

10Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.

11Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.

12Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help