1Yn yr amseroedd hynny, Matatheias mab Ioan, fab Simeon, offeiriad o hiliogaeth Joarib, a gododd i fyny o Jerwsalem, ac a breswyliodd ym Modin.
2Ac iddo ef yr oedd pum mab; Joannan, yr hwn a elwid Cadis;
3Simon, yr hwn a elwid Thassi;
4Jwdas, yr hwn a elwid Macabeus;
5Eleasar, yr hwn a elwid Abaron; a Jonathan, yr hwn a elwid Apffus.
6Pan welodd efe y cabledd a wnaethid o fewn Jwda a Jerwsalem,
7Efe a ddywedodd, Gwae fi fy ngeni i weled cystudd fy mhobl, a chystudd y ddinas sanctaidd, a’m bod yn trigo yno pan roddwyd hi yn llaw y gelynion, a’r cysegr yn llaw dieithriaid!
8Ei theml a wnaethpwyd fel gŵr heb ogoniant.
9Ei llestri parchedig hi a dducpwyd ymaith i gaethiwed; ei phlant bychain a ladded yn yr heolydd, a’i gwŷr ieuainc â chleddyf y gelyn.
10Pa genedl sydd a’r ni chafodd ran o’i theyrnas hi, ac ni ymaflodd yn ei hysbail hi?
11Ducpwyd ymaith ei holl harddwch hi: gwnaethpwyd hi’n forwyn gaeth o wraig rydd.
12Canys wele, ein cysegr, a’n harddwch, a’n gogoniant, a anrheithiwyd; a’r Cenhedloedd a’u halogasant hwy.
13I ba beth y byddwn fyw yn hwy na hyn?
14A Matatheias a’i feibion a rwygasant eu dillad, ac a ymwisgasant mewn lliain sach, ac a alarasant yn ddirfawr.
15Yna gweinidogion y brenin, y rhai a gymhellent y bobl i wrthgiliad, a ddaethant i ddinas Modin, i’w gyrru hwy i aberthu.
16Llawer o Israel a ddaethant atynt hwy, Matatheias hefyd a’i feibion a gasglwyd ynghyd.
17A gweinidogion y brenin a atebasant, ac a lefarasant wrth Matatheias, gan ddywedyd, Tywysog, a pharchedig, a mawr wyt ti yn y ddinas hon, a chadarn o feibion ac o frodyr;
18Gan hynny tyred yn gyntaf yr awron, a gwna orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl genhedloedd, a gwŷr Jwda, a’r rhai a adawed yn Jerwsalem; felly ti a gei fod â’th dylwyth ymhlith cyfeillion y brenin; a thydi a’th feibion a anrhydeddir ag arian, ac ag aur, ac â rhoddion lawer.
19A Matatheias a atebodd ac a ddywedodd â lleferydd uchel, Pe gwrandawai’r holl genhedloedd a’r sy dan lywodraeth y brenin arno ef, ac ymado o bawb allan o grefydd eu hynafiaid, a chytuno â’i orchmynion ef;
20Eto myfi, a’m meibion, a’m brodyr, a rodiwn yng nghyfamod ein tadau.
21Duw a drugarhao wrthym, rhag gadael ohonom y gyfraith a’r deddfau.
22Ni wrandawn ni ar eiriau’r brenin i ŵyro oddi wrth ein gwasanaeth tua’r llaw ddeau, na’r llaw aswy.
23Pan beidiodd efe â dywedyd y geiriau hyn, rhyw Iddew a ddaeth yn eu gŵydd hwy i aberthu ar yr allor ym Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.
24Pan welodd Matatheias hyn, efe a wynfydodd, a’i arennau a grynasant, ac ni fedrodd ymatal rhag dangos ei lid yn ôl barn, ac a’i lladdodd ef ar yr allor.
25Ac efe a laddodd yr amser hwnnw wasanaethwr y brenin, yr hwn oedd yn eu cymell hwy i aberthu, ac a ddistrywiodd yr allor.
26Ac efe a ddug sêl tuag at gyfraith Dduw, fel y gwnaeth Phinees i Sambri fab Salom.
27A Matatheias a lefodd yn y ddinas â llef uchel, gan ddywedyd, Pwy bynnag sy’n dwyn sêl i’r gyfraith, ac sy’n cadw’r cyfamod, canlyned fi.
28Ac efe a’i feibion a ffoesant i’r mynyddoedd, ac a adawsant beth bynnag oedd ganddynt yn y ddinas.
29Yna llawer, y rhai oedd yn ceisio cyfiawnder a barn, a ddaethant i waered i’r anialwch hwnnw, i aros yno,
30Hwynt-hwy, a’u meibion, a’u gwragedd, a’u hanifeiliaid; canys llawer o ddrwg a ddaethai arnynt hwy.
31A mynegwyd i wŷr y brenin, ac i’r lluoedd y rhai oedd yn Jerwsalem yn ninas Dafydd, fyned o wŷr a dorasai orchymyn y brenin i waered i lochesau yn yr anialwch.
32A llawer a erlidiodd ar eu hôl hwy, ac a’u goddiweddasant hwy, ac a wersyllasant yn eu herbyn, ac a osodasant ryfel yn eu herbyn ar y dydd Saboth,
33Ac a ddywedasant wrthynt hwy, Digon yw hyn a wnaethoch; deuwch allan, a gwnewch yn ôl gorchymyn y brenin, a chwi a gewch eich hoedl.
34A hwy a ddywedasant, Ni ddeuwn ni allan, ac ni wnawn ni orchymyn y brenin, i halogi y dydd Saboth.
35Am hynny hwy a brysurasant i ryfel yn eu herbyn hwynt.
36Ond nid atebasant hwy iddynt, ac ni thaflasant garreg atynt, ac ni chaeasant y llochesau, gan ddywedyd,
37Ni a ddioddefwn farwolaeth oll yn ein diniweidrwydd: y nef a’r ddaear a dystiolaetha trosom ni, eich bod chwi yn ein difetha heb farn.
38Felly hwy a godasant yn eu herbyn hwy mewn rhyfel ar y dydd Saboth; a hwy, a’u gwragedd, a’u plant, a’u hanifeiliaid, a fuant feirw, hyd fil o ddynion.
39Pan wybu Matatheias a’i gyfeillion hynny, hwy a alarasant amdanynt hwy yn ddirfawr.
40Yna’r naill a ddywedodd wrth y llall, Os gwnawn ni oll fel y gwnaeth ein brodyr, ac oni ymladdwn ni yn erbyn y Cenhedloedd am ein heinioes a’n deddfau, hwy a’n llwyr ddifethant ni yr awron ar frys oddi ar y ddaear.
41A hwy a gymerasant gyngor y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Pwy bynnag a ddelo i’n herbyn i ryfela ar y dydd Saboth, ni a ymladdwn yn ei erbyn ef; rhag ein meirw oll, fel y bu feirw ein brodyr yn y llochesau.
42Yna cynulleidfa o’r Assideaid a ymgasglasant atynt hwy, y rhai oedd wŷr cryfion o Israel, sef pwy bynnag oedd yn ewyllysgar yn ymroddi i’r gyfraith.
43A phawb a’r oedd yn ffoi rhag erlid a ymgysylltasant â hwy, ac a fuant yn gadernid iddynt.
44A hwy a gasglasant lu o wŷr, ac a laddasant y pechaduriaid yn eu dig, a’r gwŷr anneddfol yn eu llidiowgrwydd: a’r lleill a ffoesant at y Cenhedloedd am help.
45Yna Matatheias a’i gyfeillion a dramwyasant o amgylch, ac a ddistrywiasant yr allorau.
46A thrwy nerth hwy a enwaedasant ar y plant dienwaededig, cymaint ag a gawsant hwy o fewn terfynau Israel;
47Ac a erlidiasant y dynion beilchion: a’r gwaith hwn a lwyddodd yn eu dwylo hwynt.
48A hwy a waredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd, ac o law y brenhinoedd; ac ni roesant hwy gryfder i’r pechadur.
49A phan nesaodd dyddiau Matatheias i farw, efe a ddywedodd wrth ei feibion, Balchder ac argyhoeddiad a gawsant gryfder yr awron, ac amser distryw a dig llidiog:
50Gan hynny, fy meibion, dygwch sêl yr awr hon i’r gyfraith, a rhoddwch eich hoedl dros gyfamod eich tadau.
51Cofiwch weithredoedd ein tadau, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd: felly chwi a dderbyniwch fawr barch ac enw tragwyddol.
52Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo ef yn gyfiawnder?
53Joseff yn amser ei gyfyngder a gadwodd y gorchymyn, ac a wnaethpwyd yn arglwydd ar yr Aifft.
54Phinees ein tad, wrth ddwyn sêl, a gafodd amod am offeiriadaeth dragwyddol.
55Josua, am gyflawni gair Duw, a wnaethpwyd yn farnwr ar Israel.
56Caleb, am dystiolaethu gerbron y gynulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o’r tir.
57Dafydd yn ei drugaredd a etifeddodd orseddfainc y deyrnas dragwyddol.
58Eleias, wrth ddwyn sêl i’r gyfraith, a gymerwyd i fyny i’r nefoedd.
59Ananeias, Asareias, a Misael, am iddynt gredu, a achubwyd o’r tân.
60Daniel yn ei wiriondeb a waredwyd o safnau’r llewod.
61Ac felly ystyriwch, ym mhob oes, pwy bynnag sydd yn ymddiried ynddo ef, ni orchfygir ef.
62Am hynny nac ofnwch rhag geiriau gŵr pechadurus: canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed.
63Heddiw efe a ddyrchefir, ac yfory ni bydd efe i’w gael; canys trodd i’w bridd, a darfu am ei amcan.
64Gan hynny fy meibion, cymerwch galonnau, ac ymwrolwch ym mhlaid y gyfraith; canys chwi a gewch barch oddi wrthi hi.
65Ac wele Simon eich brawd, mi a wn mai gŵr cynghorus yw efe; gwrandewch arno ef bob amser; efe a fydd yn dad i chwi.
66Ac am Jwdas Macabeus, yr oedd efe yn gryf ac yn nerthol o’i ieuenctid; bydded efe gapten i chwi, ac ordeiniwch ryfel y bobloedd.
67Felly y dygwch atoch bawb a’r y sy’n cadw’r gyfraith; a dielwch gam eich pobl.
68Telwch hyd adref i’r Cenhedloedd; a gwyliwch ar orchmynion y gyfraith.
69Yna efe a’u bendithiodd hwy: ac efe a roddwyd at ei hynafiaid.
70Ac efe a fu farw yn y chweched flwyddyn a deugain a chant: a’i feibion a’i claddasant ef ym medd ei hynafiaid ym Modin; a holl Israel a alarodd amdano ef â galar mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.