Bel a'r Ddraig 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r brenin Astyages a roddwyd at ei dadau, a Cyrus o Persia a gymerodd ei frenhiniaeth ef.

2A Daniel oedd yn byw gyda’r brenin, ac yn fwy urddasol na’i holl gyfeillion.

3Ac yr ydoedd eilun gan y Babiloniaid, a elwid Bel, ar yr hwn yr oeddid yn treulio beunydd ddeuddeng mesur mawr o beilliaid, a deugain o ddefaid, a chwe llestr o win.

4A’r brenin a’i haddolai ef, a beunydd yr âi i ymgrymu iddo: eithr Daniel a addolai ei Dduw ei hun. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Paham nad wyt ti’n addoli Bel?

5Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Am nad anrhydeddaf fi eilunod gwneuthuredig â dwylo, ond y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaear, ac y sydd iddo feddiant ar bob cnawd.

6A’r brenin a ddywedodd wrtho, Onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwyta ac yn ei yfed beunydd?

7A Daniel a ddywedodd dan chwerthin, Na thwyller di, O frenin: hwn oddi mewn sy glai, ac oddi allan yn bres; ni fwytaodd ac nid yfodd erioed.

8Yna’r brenin yn ddicllon a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddywedwch i mi pwy sydd yn bwyta’r draul hon, meirw fyddwch:

9Eithr os gellwch chwi ddangos i mi fod Bel yn bwyta’r pethau hyn, marw a gaiff Daniel, am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin, Fel y dywedaist, bydded.

10Offeiriaid Bel oeddynt ddeg a thrigain, heblaw eu gwragedd a’u plant. A’r brenin a aeth gyda Daniel i deml Bel.

11A’r offeiriaid hefyd a ddywedasant, Wele, ni a awn allan: dod di, O frenin, y bwydydd yn eu lle, a gosod y gwin, wedi i ti ei gymysgu, a chae’r drws, a selia â’th fodrwy dy hun.

12A’r bore, pan ddelych, oni bydd Bel wedi bwyta’r cwbl, lladder ni; os amgen, Daniel, yr hwn a ddywedodd gelwydd yn ein herbyn ni.

13A diofal oeddynt: oherwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd, i’r hon yr aent i mewn bob amser, ac y llwyr fwytaent y pethau hynny.

14Yna wedi iddynt fyned allan, ac i’r brenin osod y bwydydd gerbron Bel, y gorchmynnodd Daniel i’w weision ddwyn lludw, yr hwn a daenasant dros gwbl o’r deml yng ngŵydd y brenin ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a gaeasant y porth, ac a’i seliasant â modrwy’r brenin, ac a aethant ymaith.

15A’r offeiriaid a aethant i mewn, gefn y nos, yn ôl eu harfer, â’u gwragedd a’u plant, ac a fwytasant ac a yfasant y cwbl.

16A’r bore y brenin a gododd yn fore iawn, a Daniel gydag ef.

17A’r brenin a ddywedodd, A ydyw y seliau yn gyfain, Daniel? Ac yntau a atebodd, Y maent yn gyfain, O frenin.

18A chyn gyflymed ag yr agorasid y drws, y brenin a edrychodd tua’r bwrdd, ac a lefodd yn uchel, Mawr wyt ti, O Bel, ac nid oes dim twyll gyda thi.

19Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd, Gwêl y llawr, ac edrych ôl traed pwy yw y rhain.

20A’r brenin a ddywedodd, Mi a welaf ôl traed gwŷr, a gwragedd, a phlant: ac yna y digiodd y brenin,

21Ac a ddaliodd yr offeiriaid, a’u gwragedd, a’u plant, y rhai a ddangosasant iddo y drysau dirgel, i’r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i fwyta’r pethau oedd ar y bwrdd.

22A’r brenin a’u lladdodd hwynt, ac a roes Bel ar law Daniel, yr hwn a’i dinistriodd ef a’i deml.

23Yr oedd hefyd ddraig fawr yno; a’r Babiloniaid a’i haddolent hi.

24A’r brenin a ddywedodd wrth Daniel, A ddywedi di mai efydd yw hon? Wele hi yn fyw, ac yn bwyta, ac yn yfed: ni elli di ddywedyd nad yw hon Dduw byw: am hynny addola hi.

25A dywedodd Daniel, Myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw y Duw byw.

26Eithr tydi, O frenin, dod i mi gennad, a mi a laddaf y ddraig hon, heb na chleddyf na ffon. A’r brenin a ddywedodd, Yr ydwyf yn rhoddi i ti gennad.

27Yna y cymerth Daniel byg, a gwêr, a blew, ac a’u berwodd ynghyd, ac a wnaeth dameidiau ohonynt, ac a’u rhoes yn safn y ddraig; a’r ddraig a dorrodd ar ei thraws. Ac efe a ddywedodd, Wele’r pethau yr ydych chwi yn eu haddoli!

28Ac fe ddigwyddodd i’r Babiloniaid, pan glywsant hynny, ddirfawr lidio, a throi yn erbyn y brenin, gan ddywedyd, Y brenin a aeth yn Iddew; Bel a ddistrywiodd efe, a’r Ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid i farwolaeth.

29Ac wedi eu dyfod at y brenin, y dywedasant, Dod i ni Daniel; onis rhoi, ni a’th ddifethwn di a’th dŷ.

30Pan welodd y brenin eu bod hwy yn daer iawn arno, yna y gorfu iddo, o’i anfodd, roi Daniel iddynt.

31A hwythau a’i bwriasant ef i ffau y llewod, lle y bu efe chwe diwrnod.

32Ac yn y ffau yr oedd saith o lewod, i’r rhai y rhoid beunydd ddau gorff, a dwy ddafad, y rhai y pryd hynny ni roesid iddynt, fel y gallent lyncu Daniel.

33A Habacuc y proffwyd oedd yn Jwdea; ac efe a ferwasai sew, ac a friwasai fara mewn cawg, ac oedd yn myned i’w ddwyn i’r maes i fedelwyr.

34Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Habacuc, Dwg y cinio sy gennyt hyd yn Babilon, i Daniel, yr hwn sydd yn ffau y llewod.

35A Habacuc a ddywedodd, Arglwydd, ni welais i Babilon erioed; ac ni wn i pa le y mae’r ffau.

36Yna angel yr Arglwydd a’i cymerth ef erbyn ei gorun; ac wedi iddo ei ddwyn erbyn gwallt ei ben, a’i dodes ef yn Babilon, oddi ar y ffau, trwy nerth ei ysbryd ef.

37A Habacuc a lefodd, gan ddywedyd, Daniel, Daniel, cymer y cinio a anfonodd Duw i ti.

38Yna y dywedodd Daniel, Ti a feddyliaist amdanaf fi, O Dduw, ac ni adewaist mewn gwall y rhai a’th geisiant ac a’th garant.

39Felly Daniel a gyfododd i fyny, ac a fwytaodd. Ac angel yr Arglwydd a ddodes Habacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.

40A’r brenin a aeth y seithfed dydd i alaru am Daniel; a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn, ac wele, yr oedd Daniel yn eistedd.

41Yna y llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd, Mawr wyt ti, O Arglwydd Dduw Daniel; ac nid oes arall ond tydi.

42Ac efe a’i tynnodd ef allan o’r ffau, ac a fwriodd y rhai oedd achos o’i ddifetha ef i’r ffau: a hwy a lyncwyd yn y fan o flaen ei lygaid ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help