1A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.
2Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn.
3Wele fi; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi.
4A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.
5Dywedodd yntau wrthynt, Yr ARGLWYDD sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.
6A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr ARGLWYDD yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.
7Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr ARGLWYDD, am holl gyfiawnderau yr ARGLWYDD, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau.
8Wedi i Jacob ddyfod i’r Aifft, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr ARGLWYDD, yna yr ARGLWYDD a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Aifft, ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn.
9A phan angofiasant yr ARGLWYDD eu DUW, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt.
10A hwy a waeddasant ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr ARGLWYDD, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di.
11A’r ARGLWYDD a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.
12A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r ARGLWYDD eich DUW yn frenin i chwi.
13Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a’r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr ARGLWYDD a roddes frenin arnoch chwi.
14Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich DUW.
15Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr ARGLWYDD, eithr anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y bydd llaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.
16Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi.
17Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn gofyn i chwi frenin.
18Felly Samuel a alwodd ar yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r holl bobl a ofnodd yr ARGLWYDD a Samuel yn ddirfawr.
19A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.
20A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ond gwasanaethwch yr ARGLWYDD â’ch holl galon;
21Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.
22Canys ni wrthyd yr ARGLWYDD ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r ARGLWYDD eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.
23A minnau, na ato DUW i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.
24Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.
25Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a’ch brenin a ddifethir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.