Job 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.

3Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.

4Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,

5Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?

6Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau;

7Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?

8Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.

9Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono.

10Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.

11Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.

12Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;

13Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:

14Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef.

15Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: DUW a’i tyn allan o’i fol ef.

16Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’i lladd ef.

17Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.

18Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.

19Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;

20Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd.

21Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.

22Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.

23Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, DUW a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.

24Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef.

25Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.

26Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.

27Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.

28Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.

29Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help