Daniel 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd, ac a draethodd swm y geiriau.

2Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr.

3A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall.

4Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn.

5Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer.

6Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i’r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.

7Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.

8Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

9Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a’r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a’i olwynion yn dân poeth.

10Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.

11Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a’i roddi i’w losgi yn tân.

12A’r rhan arall o’r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.

13Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a’i dygasant ger ei fron ef.

14Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i’r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a’i frenhiniaeth ni ddifethir.

15Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant.

16Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.

17Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o’r ddaear.

18Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.

19Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed:

20Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion.

21Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;

22Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth.

23Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a’i sathr hi, ac a’i dryllia.

24A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

25Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.

26Yna yr eistedd y farn, a’i lywodraeth a ddygant, i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd.

27A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.

28Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help