1Yna Oloffernes a ddywedodd wrthi hi, Cymer gysur, wraig, nac ofna yn dy galon; canys ni wneuthum i niwed i neb a fynnai wasanaethu Nabuchodonosor brenin yr holl ddaear.
2Ac yn awr dy bobl di, y rhai sydd yn aros yn y mynyddoedd, oni buasai iddynt hwy fy nirmygu, ni ddyrchafaswn fy ngwaywffon yn eu herbyn hwynt: ond hwy a wnaethant hyn iddynt eu hunain.
3Ond yn awr dywed i mi paham y ffoaist ti oddi wrthynt hwy, ac y daethost atom ni; canys ti a ddaethost i ddiogelwch: cymer gysur; byw fyddi di y nos hon, a rhag llaw;
4Canys nid oes neb a wna niwed i ti, ond a wnêl yn dda i ti, megis ag y gwneir i weision fy arglwydd frenin Nabuchodonosor.
5Yna Judith a ddywedodd wrtho ef, Derbyn eiriau dy wasanaethferch, a gad i’th lawforwyn lefaru ger dy fron di, ac ni fynegaf gelwydd i’m harglwydd y nos hon.
6Ac os tydi a ganlyni eiriau dy lawforwyn, Duw a wna yn gwbl y peth trwot ti, ac ni phalla fy arglwydd o’i amcanion.
7Fel y mae Nabuchodonosor brenin yr holl ddaear yn fyw, ac mai byw ei nerth ef, yr hwn a’th anfonodd di i uniawni pob enaid; nid yn unig dynion a’i gwasanaethant ef trwot ti, eithr bwystfilod y maes, a’r ysgrubliaid, ac ehediaid y nefoedd, a fyddant byw trwy dy nerth di, dan Nabuchodonosor a’i holl dŷ ef.
8Canys ni a glywsom sôn am dy ddoethineb di, a chyfrwystra dy galon; ac fe a fynegwyd trwy’r holl ddaear dy fod di yn unig yn rhagorol trwy’r holl deyrnas, ac yn alluog mewn gwybodaeth, ac yn rhyfedd yng nghyfarwyddyd rhyfel.
9Ac yn awr am y peth a lefarodd Achior yn dy eisteddfod di, nyni a glywsom ei ymadroddion ef: canys gwŷr Bethulia a’i daliasant ef, ac efe a fynegodd iddynt yr hyn oll a lefarasai efe wrthyt ti.
10Am hynny, O arglwydd lywiawdwr, na ddiystyra ei air ef, ond gosod ef at dy galon; canys gwir yw: oherwydd nid oes dial i’w gymryd yn erbyn ein cenedl ni, ac ni ddichon y cleddyf eu gorchfygu hwynt, oddieithr iddynt hwy bechu yn erbyn eu Duw.
11Ac yn awr rhag bod fy arglwydd yn ddiobaith, a methu ganddo yr hyn a amcanodd, marwolaeth a syrthiodd arnynt hwy, a phechod a’u daliodd, trwy’r hwn y dicllonant eu Duw, pa bryd bynnag y gwnelont anweddeidd-dra.
12Oblegid i’w lluniaeth hwynt ddarfod, ac i’w dwfr brinhau, hwy a ymgyngorasant ar ruthro i’r anifeiliaid; ac y maent ar fedr gwastraffu yr hyn oll a waharddodd Duw iddynt hwy trwy ei gyfraith ei fwyta.
13Ac maent ar fedr treulio blaenffrwyth yr ŷd, a degwm y gwin a’r olew, y rhai a gadwasant yn sanctaidd i’r offeiriaid sydd yn sefyll yn Jerwsalem gerbron ein Duw ni; y rhai ni pherthyn i neb o’r bobl gyffwrdd â hwynt â’u dwylo.
14Hefyd hwy a anfonasant i Jerwsalem, oherwydd y rhai sy’n trigo yno a wnaethant felly, rai i ddwyn iddynt hwy gennad o’r seneddr:
15A phan ddygont hwy air iddynt, yna hwy a wnânt felly: a hwy a roddir i ti i’w dinistrio y dwthwn hwnnw.
16Am hynny myfi dy wasanaethferch yn gwybod hyn oll, a ffoais o’u gŵydd hwynt: a Duw a’m hanfonodd i wneuthur â thi y cyfryw bethau ag y rhyfedda’r holl fyd, a’r sawl a’u clywant oll;
17Canys dy wasanaethferch sy grefyddol, ac yn addoli Duw nef ddydd a nos. Ac yn awr gad i mi aros gyda thi, fy arglwydd; a’th wasanaethferch a â y nos allan i’r dyffryn, a mi a weddïaf Dduw, ac efe a fynega i mi pa bryd y gwnaethant hwy eu pechodau:
18A minnau a ddeuaf, ac a’i mynegaf i ti, fel yr elych dithau allan â’th holl lu; ac ni bydd neb ohonynt hwy a allo dy wrthwynebu.
19A mi a’th arweiniaf di trwy ganol Jwdea, nes i ti ddyfod o flaen Jerwsalem; a mi a osodaf dy eisteddfa di yn ei chanol hi, a thi a’u hymlidi hwynt fel defaid heb fugail, ac ni chyfarth ci â’i dafod i’th erbyn: canys hyn a ddywetbwyd i mi trwy fy rhagwybodaeth, ac a fynegwyd i mi, a myfi a anfonwyd i fynegi i ti.
20A’i geiriau hi a ryglyddasant fodd Oloffernes a’i holl weision: a hwy a ryfeddasant oherwydd ei doethineb hi, ac a ddywedasant,
21Nid oes mo’r fath wraig o bryd a gwedd a doeth ymadrodd, o gwr bwygilydd i’r ddaear.
22Ac Oloffernes a ddywedodd wrthi, Da y gwnaeth Duw, yr hwn a’th anfonodd di o flaen y bobl, fel y byddai nerth yn ein dwylo ni, a distryw ar y rhai a ddirmygant fy arglwydd.
23Ac yn awr yr wyt ti yn landeg yr olwg, ac yn ddoeth yn dy ymadrodd: os tydi a wnei megis y lleferaist, dy Dduw di fydd yn Dduw i mi, a thi a gei aros yn nhŷ Nabuchodonosor y brenin, ac a fyddi yn enwog trwy’r holl ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.