Colosiaid 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

2Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

3Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

5Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu’r amser.

6Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.

7Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd-was yn yr Arglwydd:

8Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;

9Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.

10Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)

11A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.

12Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.

13Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis.

14Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.

15Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

16Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

17A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.

18Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help