Effesiaid 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;

2A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

3Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;

4Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

6Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod.

7Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt.

8Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

9(Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)

10Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.

11Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.

12Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

13Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.

14Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

15Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;

16Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.

17Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd;

19Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd;

20Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

21Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw.

22Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis i’r Arglwydd.

23Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i’r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.

24Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth.

25Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a’i rhoddes ei hun drosti;

26Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair;

27Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.

28Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.

29Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys:

30Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef.

31Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

32Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.

33Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help