1Yna Gorgias a gymerodd bum mil o wŷr traed, a mil o wŷr meirch detholedig, ac a osododd allan o’r gwersyll liw nos;
2Fel y gallai efe ruthro i wersyll yr Iddewon, a’u taro yn ddisymwth: a milwyr y castell oedd yn ei gyfarwyddo ef ar y ffordd.
3Pan glybu Jwdas, efe a aeth allan ei hun, a’r gwŷr galluog gydag ef, i daro llu’r brenin, yr hwn oedd yn Emaus,
4Tra fyddai’r lluoedd eto wedi ymdaenu oddi wrth y gwersyll.
5A Gorgias a ddaeth i wersyll Jwdas liw nos, ac ni chafodd efe neb; ond efe a’u ceisiodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywedodd, Y maent hwy yn ffoi oddi wrthym.
6Ond gyda’i dyddhau hi, Jwdas a ymddangosodd yn y maes, â thair mil o wŷr; ond nid oedd ganddynt na llurigau na chleddyfau fel yr ewyllysient.
7Pan welsant hwy wersyll y Cenhedloedd yn gryf, wedi ei wisgo mewn llurigau, a’r gwŷr meirch yn eu hamgylchu hwynt, a’r rhai hynny wedi eu dysgu i ryfela,
8Yna Jwdas a ddywedodd wrth y gwŷr oedd gydag ef, Nac ofnwch eu lluosowgrwydd, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.
9Cofiwch fel yr achubwyd ein hynafiaid ni yn y môr coch, pan erlidiodd Pharo hwy â llu.
10Felly yr awron, gadewch i ni lefain tua’r nef, i edrych a drugarhao efe wrthym ni, ac a gofia efe amod ein hynafiaid, ac a ddryllia efe y gwersyll hwn o flaen ein hwyneb ni heddiw;
11Fel y gwypo’r holl Genhedloedd fod un yn gwared ac yn achub Israel.
12Yna y dieithriaid a godasant eu golwg i fyny, ac a’u canfuant hwy yn dyfod ar eu cyfer hwynt;
13Ac a ddaethant allan o’r gwersyll i ryfela: a’r rhai oedd gyda Jwdas a ganasant utgyrn.
14A hwy a drawsant ynghyd: a’r Cenhedloedd a orchfyged, ac a ffoesant i’r maes gwastad.
15A’r holl rai olaf a laddwyd â’r cleddyf: a hwy a’u herlidiasant hwy hyd Gasera, a hyd at feysydd Idumea, ac Asotus, a Jamnia: ac ynghylch teirmil o wŷr ohonynt a laddwyd.
16A Jwdas a’r llu a ddychwelodd o’u herlid hwy.
17Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Na fyddwch awyddus i’r ysbail, oblegid y mae rhyfel yn ein herbyn ni;
18Oblegid y mae Gorgias a’i lu yn y mynydd yn agos atom: ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynion, a gorchfygwch hwy, ac wedi hynny cymerwch yr ysbail yn ddi-ofn.
19Pan oedd Jwdas eto yn dywedyd hyn, rhan ohonynt a welid yn edrych allan o’r mynydd.
20Pan welsant yrru o’r Iddewon eu llu hwynt i ffoi, a’u bod yn llosgi’r gwersyll; canys y mwg, yr hwn a welid, a ddangosodd yr hyn a wnaethid:
21Pan welsant y pethau hyn, hwy a ofnasant yn ddirfawr: a phan welsant hwy lu Jwdas yn y maes yn barod i ymladd,
22Hwy a ffoesant oll i wlad y dieithriaid.
23A Jwdas a ddychwelodd i gymryd ysbail y gwersyll: a hwy a gawsant lawer o aur, ac arian, a dillad, a sidan glas, a phorffor y môr, a chyfoeth mawr.
24Felly hwy a aethant adref, ac a ganasant gân diolch, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod ef yn ddaionus, a’i drugaredd yn dragywydd.
25Ac felly Israel a gafodd ymwared mawr y diwrnod hwnnw.
26A’r Cenhedloedd oll a’r a ddianghasent, a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a ddigwyddasai.
27A Lysias oedd yn gywilydd ganddo, ac a ddigalonnodd, am na ddigwyddasai’r cyfryw bethau i Israel ag a fynasai efe, ac am na wnaethid y cyfryw bethau ag a orchmynasai’r brenin.
28A’r flwyddyn nesaf ar ôl hyn, Lysias a gasglodd dri ugain mil o wŷr traed detholedig, a phum mil o wŷr meirch, i’w gorchfygu hwynt.
29A hwy a ddaethant i Idumea, ac a wersyllasant yn Bethsura, lle y daeth Jwdas yn eu herbyn hwy â deng mil o wŷr.
30A phan welodd efe y llu mawrgryf, efe a wnaeth ci weddi, ac a ddywedodd, Bendigedig wyt ti, O Achubwr Israel, yr hwn a gystwyaist ruthr y cadarn trwy law Dafydd dy was, ac a roddaist wersyll y dieithriaid yn llaw Jonathan fab Saul, ac arweinydd ei arfau ef.
31Cae y llu hwn yn llaw dy bobl Israel; a chywilyddier hwy yn eu lluosowgrwydd a’u gwŷr meirch.
32Gwna iddynt ofni, a thawdd ymaith hyfder eu cadernid hwynt, a chrynant wrth eu dinistr.
33Tafl hwy i lawr â chleddyf y rhai sy’n dy garu di; a’r sawl oll a adwaenant dy enw, clodforant di â hymnau.
34Yna hwy a drawsant ynghyd: ac fe a laddwyd ynghylch pum mil o wŷr o lu Lysias; ger eu bron hwy y lladdwyd hwynt.
35Pan welodd Lysias yrru ei lu ef i ffoi, a gwrolaeth y rhai oedd gyda Jwdas, fel yr oeddynt hwy’n barod, pa un bynnag ai i fyw, ai i farw fel gwŷr, efe a aeth i Antiochia, ac a gasglodd ryfelwyr dieithr; ac wedi gwneuthur ei lu yn fwy nag y buasai, a feddyliodd ddyfod drachefn i Jwdea.
36Yna y dywedodd Jwdas a’i frodyr, Wele, gorchfygwyd ein gelynion; awn i fyny i lanhau ac i adnewyddu’r cysegr.
37Wrth hyn yr holl lu a ymgasglodd; a hwy a aethant i fyny i fynydd Seion.
38A phan welsant hwy y cysegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dorau wedi eu llosgi, a’r manwydd yn tyfu yn y neuaddau fel mewn coed neu ar un o’r mynyddoedd, ac ystafelloedd yr offeiriaid wedi eu tynnu i lawr;
39Hwy a rwygasant eu dillad, ac a alarasant â galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau,
40Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau, ac a wnaethant sŵn mawr ag utgyrn, ac a waeddasant tua’r nef.
41Yna Jwdas a osododd wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfyddai iddo ef lanhau’r cysegr.
42Ac efe a ddewisodd offeiriaid diargyhoedd, y rhai oedd ewyllysgar i’r gyfraith:
43A hwy a lanhasant y cysegr, ac a ddygasant allan y cerrig halogedig i le aflan.
44A chan fod allor y poethoffrymau wedi ei halogi, hwy a ymgyngorasant beth a wnaent iddi hi.
45Felly hwy a feddyliasant mai gorau oedd ei thynnu hi i lawr, rhag iddi fod yn gywilydd iddynt, canys y Cenhedloedd a’i halogasent hi: am hynny hwy a dynasant yr allor i lawr,
46Ac a osodasant y cerrig ar fynydd y tŷ mewn lle cyfaddas, hyd oni ddelai proffwyd i fynegi pa beth a wneid â hwynt.
47A hwy a gymerasant gerrig cyfain yn ôl y gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd, yn ôl dull y gyntaf;
48Ac a wnaethant y cysegr i fyny, a’r pethau o fewn y tŷ, ac a sancteiddiasant y cynteddau;
49Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd; ac a ddygasant y canhwyllbren, ac allor y poethoffrymau a’r aroglaberthau, a’r bwrdd, i mewn i’r deml.
50A hwy a losgasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau oedd yn y canhwyllbren, i oleuo yn y deml.
51A hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a ledasant y llenni, ac a orffenasant yr holl waith a ddechreuasant ei wneuthur.
52Ac ar y pumed dydd ar hugain o’r nawfed mis, yr hwn a elwir mis Casleu, yn yr wythfed flwyddyn a deugain a chant, hwy a godasant yn fore i fyny,
53Ac a aberthasant yn ôl y gyfraith ar allor newydd y poethoffrymau, yr hon a wnaethent hwy.
54Ar gyfenw i’r amser a’r diwrnod yr halogasai’r Cenhedloedd hi, yn union, y gosoded hi i fyny o newydd, â chaniadau, â thelynau, â phibau, ac â symbalau.
55A’r holl bobl a syrthiasant ar eu hwynebau, gan addoli a diolch i Dduw y nef, yr hwn a’u llwyddasai hwy.
56Ac felly hwy a gadwasant gysegriad yr allor wyth niwrnod, gan offrymu poethoffrymau ac aberthu aberthau iachawdwriaeth a moliant mewn llawenydd.
57A hwy a harddasant dalcen y deml â choronau o aur ac â tharianau, ac a adnewyddasant y pyrth a’r ystafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.
58Ac yr oedd llawenydd mawr ymhlith y bobl, am droi gwaradwydd y Cenhedloedd ymaith.
59Felly Jwdas a’i frodyr, a holl gynulleidfa Israel, a ordeiniodd gadw dyddiau cysegriad yr allor yn eu hamserau, yn uchel ŵyl bob blwyddyn dros wyth niwrnod, gan ddechrau y pumed dydd ar hugain o’r mis Casleu, trwy orfoledd a llawenydd.
60Ac ar yr un amser, hwy a adeiladasant fynydd Seion i fyny â chaerau uchel, ac â thyrau cedyrn oddi amgylch, rhag dyfod o’r Cenhedloedd, a’i fathru ef i lawr, fel y gwnaethent o’r blaen.
61A hwy a osodasant ynddo gryfdwr i’w gadw ef, ac a gadarnhasant Bethsura i’w gadw ef, fel y câi’r bobl amddiffynfa yn erbyn Idumea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.