Y Salmau 90 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 90Gweddi Moses gŵr Duw.

1Ti, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.

2Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

3Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.

4Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.

5Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.

6Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

7Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.

8Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.

9Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

10Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.

11Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.

12Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.

14Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

15Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.

17A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help