Deuteronomium 33 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A dyma’r fendith â’r hon y bendithiodd Moses gŵr DUW feibion Israel, cyn ei farwolaeth.

2Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt.

3Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o’th eiriau.

4Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob.

5Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

6Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

7Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O ARGLWYDD, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

8Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba;

9Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a’i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.

10Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg-aberth ar dy allor.

11Bendithia, O ARGLWYDD, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn, a’i gaseion, fel na chodont.

12Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr ARGLWYDD a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

13Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr ARGLWYDD, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;

14Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau,

15Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb,

16Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

17Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf-anedig ei ych, a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

18Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.

19Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen.

21Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr ARGLWYDD, a’i farnedigaethau gydag Israel.

22Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr ARGLWYDD: meddianna di y gorllewin a’r deau.

24Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26Nid oes megis DUW Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a’r wybrennau yn ei fawredd.

27Dy noddfa yw DUW tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol: efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

28Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

29Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr ARGLWYDD, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help