Y Salmau 52 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 52I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.

1Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd DUW yn parhau yn wastadol.

2Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

3Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela.

4Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.

5 DUW a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.

6Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7Wele y gŵr ni osododd DDUW yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.

8Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn dragywydd.

9Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help