Exodus 28 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A chymer Aaron dy frawd atat, a’i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron.

2Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.

3A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

4A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.

5Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

6A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint.

7Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd.

8A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.

9Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:

10Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.

11A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch.

12A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr ARGLWYDD ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.

13Gwna hefyd foglynnau aur;

14A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.

15Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi.

16Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled.

17Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.

18A’r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant.

19A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.

20Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

21A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.

22A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.

23Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg.

24A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

25A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen.

26Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn.

27A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

28A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod.

29A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.

30A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr ARGLWYDD: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr ARGLWYDD, yn wastadol.

31Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas.

32A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

33A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

34Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch.

35A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr, gerbron yr ARGLWYDD, a phan elo allan; fel na byddo farw.

36Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD.

37A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.

38A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr ARGLWYDD.

39Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a’r gwregys a wnei o wniadwaith.

40I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.

41A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.

42Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

43A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ôl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help