Y Salmau 146 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 146

1Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola di yr ARGLWYDD.

2Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.

3Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.

4Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:

6Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:

7Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.

10Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help