Ioan 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno.

2A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.

3A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin.

4Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.

5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

6Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.

7Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl.

8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.

9A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,

10Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

11Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.

12Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

13A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;

14Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd.

15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:

16Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.

17A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.

18Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?

19Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.

20Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?

21Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.

22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

23Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.

24Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;

25Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help