Y Salmau 46 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 46I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.

1 DUW sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:

3Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.

4Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.

5 DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn.

6Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.

7Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.

8Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.

9Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.

10Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.

11Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help