Ecclesiasticus (Sirach) 46 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 46

1Cryf mewn rhyfel oedd Jesus mab Nafe, a dilynwr Moses mewn proffwydoliaethau; yr hwn yn ôl ei enw oedd fawr, er iachawdwriaeth i etholedigion Duw, ac i ddial ar y gelynion a gyfodent i’w herbyn hwynt, fel y câi Israel ei etifeddiaeth.

2Pa ogoniant a gafodd efe yn dyrchafu ei ddwylo, ac yn tynnu ei gleddyf yn erbyn y dinasoedd!

3Pwy o’i flaen ef a safodd felly? canys efe oedd dywysog ar ryfel yr Arglwydd.

4Onid trwy ei waith ef y safodd yr haul, ac y gwnaed un diwrnod cyhyd â dau?

5Efe a alwodd ar y Llywydd goruchaf, pan oedd y gelynion yn pwyso arno o bob parth: a’r mawr Iôr a’i gwrandawodd ef.

6Ac â cherrig cesair mawr allu, efe a ruthrodd ar y cenhedloedd â rhyfel, ac yng ngoriwaered Bethoron efe a ddifethodd y gwrthwynebwyr; fel y gallai y cenhedloedd adnabod ei holl arfogaeth ef, mai o flaen yr Arglwydd yr oedd efe yn rhyfela, oblegid efe oedd yn canlyn ar ôl y Galluog.

7Yn amser Moses hefyd y gwnaeth efe a Chaleb hefyd fab Jeffunne waith elusen, gan sefyll yn erbyn y gynulleidfa, ac atal y bobl rhag pechu, a lluddio y grwgnach drygionus.

8A hwynt-hwy ill dau a ddianghasant, o chwe chan mil o wŷr traed, i’w dwyn hwynt i mewn i’r etifeddiaeth, sef i’r wlad oedd yn llifeirio o laeth a mêl.

9I Caleb hefyd y rhoddes yr Arglwydd gryfder, yr hwn a barhaodd gydag ef hyd ei henaint; fel yr aeth efe i uchelder y wlad, a’i had ef a’i goresgynnodd hi yn etifeddiaeth:

10Fel y gallai holl feibion Israel weled mai da yw dilyn yr Arglwydd.

11Y barnwyr hefyd bob un erbyn ei enw, y rhai oll ni phuteiniodd eu calon, a pha rai bynnag ni throesant oddi wrth yr Arglwydd, bydded eu coffadwriaeth hwynt yn fendigedig.

12Bydded eu hesgyrn yn iraidd yn eu lle, a bydded eu henw hwynt, y rhai oedd anrhydeddus, yn aros ar eu plant.

13Samuel, proffwyd yr Arglwydd, yr hwn oedd hoff gan ei Arglwydd, a osododd freniniaethau, ac a eneiniodd dywysogion ar ei bobl ef.

14Trwy gyfraith yr Arglwydd y barnodd efe y gynulleidfa; a’r Arglwydd a ystyriodd wrth Jacob.

15Efe a gafwyd yn wir broffwyd wrth ei ffydd; ac efe a adnabuwyd wrth ei eiriau ei fod yn ffyddlon mewn gweledigaeth.

16Ac efe a alwodd ar yr Arglwydd galluog, pan oedd ei elynion ef o amgylch yn pwyso arno wrth offrymu yr oen sugno.

17A’r Arglwydd a daranodd o’r nefoedd, ac a wnaeth glywed ei leferydd â sŵn mawr.

18Felly y drylliodd efe dywysogion y Tyriaid, a holl benaethiaid y Philistiaid.

19A chyn amser ei hir hun, efe a dystiolaethodd o flaen yr Arglwydd a’i eneiniog, Ni chymerais o dda neb gymaint ag esgid: ac nid achwynodd neb rhagddo ef.

20Ac wedi iddo ef huno, efe a broffwydodd, ac a ddangosodd i’r brenin ei ddiwedd, ac a ddyrchafodd ei lef o’r ddaear mewn proffwydoliaeth, i ddileu anwiredd y bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help